Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Arbenigwyr Plant Rhyngwladol yn dod i Gynhadledd Bwysig yng Nghaerdydd, 18/8/08 [C]
Arbenigwyr Plant Rhyngwladol yn dod i Gynhadledd Bwysig yng Nghaerdydd, 18/8/08 [C]

Datganiad i’r Wasg

18 Awst

Mae elusen plant Plant yng Nghymru yn cyd-noddi cynhadledd ryngwladol bwysig ddiwedd mis Medi ar gyfer arbenigwyr o bob rhan o’r byd.

Bydd y gynhadledd, FforwmByd2008, yn ystyried mater pwysig ‘Ymyriad ac Ataliaeth Cynnar’ a bydd yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru. Disgwylir y daw dros 400 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r byd ynghyd i rannu syniadau ac ymchwil am fanteision ymyrryd yn gynnar pan fo gan blant broblemau. Bydd cyfle unigryw i’r rhai sy’n gweithio o fewn y sector yng Nghymru i arddangos cynlluniau yn y maes hwn yng Nghymru. Yn ogystal â swyddogion proffesiynol, daw’r gynhadledd hefyd â phobl ifanc o Hwngari, Cyprus, yr Almaen a Chymru ynghyd am raglen chwe diwrnod lle medrant dynnu sylw at eu profiadau eu hunain.

- Diwedd -

Nodiadau:

1.       Cynhelir FforwmByd 2008 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd rhwng 29 Medi – 1 Hydref 2008. Fe’i trefnir gan yr International Forum for Child Welfare (IFCW) a Plant yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar y wefan: www.worldforum2008.org

2.       Bydd Rhaglen Gweithgareddau Pobl Ifanc yn rhedeg rhwng dydd Sul 28 Medi a dydd Gwener 3 Hydref 2008.

3.       Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. www.plantynghymru.org.uk.

4.       Mae’r IFCW yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy’n ymroddedig i hyrwyddo hawliau a lles plant ym mhob rhan o’r byd. www.ifcw.org.

5.       Medrir cael gwybodaeth bellach am y datganiad i’r wasg hwn drwy gysylltu â Kate Richards, Plant yng Nghymru, 25 Plas Windsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: kate.richards@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313