Datganiad i’r Wasg
4 Awst 2008
Gofyn i Bobl Ifanc Sut y Byddent yn Newid Cymru
Gall plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddweud beth y byddent yn ei newid i wella pethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r elusen plant, Plant yng Nghymru, yn dosbarthu cardiau post yn yr Eisteddfod yn gofyn "Pe byddech chi’n rhedeg Cymru, pa un peth fyddech chi’n wneud i wella pethau ar gyfer plant a phobl ifanc?" Bydd y cynigion buddugol yn derbyn taleb Amazon gwerth £20 ac yn ymddangos yng nghylchgrawn Plant yng Nghymru.
Bydd Plant yng Nghymru hefyd yn dosbarthu holiadur i bobl ifanc sy’n galw yn stondin Sefydliadau Plant i ganfod faint a wyddant am eu hawliau.
Dywedodd Sarah Thomas, Swyddog Datblygu Plant yng Nghymru: "Mae cael cyfle i siarad gyda phlant a phobl ifanc yn yr Eisteddfod yn ein galluogi i gasglu sylwadau a phrofiadau o bob rhan o Gymru. Bydd yr holiadur yn rhoi ‘ciplun’ i ni o ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’u hawliau ac os teimlant eu bod yn medru eu defnyddio."
Nodiadau
1. Mae Plant yng Nghymru yn noddi’r Stondin Mudiadau Plant, stondin rhif 1115 i 1118.
2. Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 a daeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Mae’n anelu i hyrwyddo diddordebau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda yng Nghymru. Gweithiwn yn agos gyda’n haelodau sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, gwneuthurwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywyd pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, ond yn arbennig blant ifanc, y rhai y mae ansefydlogrwydd teuluol yn effeithio arnynt, plant gydag anghenion arbennig neu anableddau a rhai’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd. Casglwn a lledaenwn wybodaeth am blant a hyrwyddo arfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygu ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i lyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth helaeth. Mae gan Blant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
I gael gwybodaeth bellach cysyllter â:
Ymholiadau yn Gymraeg:
Anita Myfanwy, Swyddog Datblygu Gogledd Cymru, Plant yng Nghymru,
Ffôn: 07760151222, E-bost: anita.myfanwy@childreninwales.org.uk
Ymholiadau yn Saesneg
Lynne Hill, Cyfarwyddydd Polisi, Plant yng Nghymru,
Ffôn: 029 2034 2434/ 07721 568090,
E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk