Western Mail, y 7fed o Ebrill, 2008.
Gan ymateb i ddeisyfiad o dan Ryddid Gwybodaeth, a oedd yn dangos bod heddluoedd Cymru yn rhoi trwyddedau drylliau saethu i blant mor ifanc ag 11 mlwydd oed, fe wnaeth Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, fwrw’r sylw:
"Yr wyf wedi’m syfrdanu’n llwyr fod plant un ar ddeng mlwydd oed yn cael eu caniatáu gan yr heddlu i danio arfau sydd â’r potensial i fod yn angheuol.
"Ac yr wyf yn ei chael hi’n anodd credu nad oes yna oed ieuengaf pan ddaw hi’n ddrylliau saethu. Yn sicr, gyda’r holl droseddau gyda drylliau yn digwydd yn gysylltiedig â phobl ifanc mewn lleoedd fel Manceinion a Llundain, yn awr yw’r amser i ailymweld â’n deddfau drylliau tanio a’r peth lleiaf un y gallwn ei wneud yw gosod gofyniad oed ieuengaf ar dystysgrifau drylliau saethu."
Cliciwch yma am yr erthygl lawn.