Y Western Mail, 21ain o Chwefror, 2008
Mewn erthygl ar ffigurau a gyhoeddwyd gan Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn dangos eu bod wedi derbyn 138 o apeliadau yn erbyn penderfyniadau AAA gan awdurdodau lleol yn y flwyddyn yn gorffen ym mis Awst 2007, sef 21% o ostyngiad o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, fe wnaeth Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru, fwrw’r sylw:
"Nid wyf yn gwybod a yw’r gostyngiad mewn apeliadau yn adlewyrchu bod pobl yn cael gwell gwasanaeth. Efallai ond bod pobl yn teimlo’n lluddedig gyda gwasanaethau ac yn methu ag apelio, ond fe all fod pobl yn ddedwyddach. Fe fyddwn yn dymuno gwybod y manylion."
Fe ddywedodd Ms Hill fod yna brinder cyllid a phrinder therapyddion, yn enwedig therapyddion lleferydd ac iaith ledled Cymru.
Cliciwch yma am yr erthygl lawn