Western Mail, yr 17eg o Dachwedd 2008
Gan ymateb i arolwg gan Barnardo’s a ddangosai fod hanner yr oedolion a holwyd yn credu bod plant yn beryglus, fe wnaeth Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, fwrw’r sylw:
"Fe gredaf fod arnom angen bod yn ystyriol o’r niwed y gallwn ei wneud i gymdeithas drwy labelu plant fel gwrthgymdeithasol.
"O gymharu â’r rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd eraill, yr ydym yn rhoi cyhoeddusrwydd eitha’ negyddol i blant, ac fe gafodd hyn yn wir ei gydnabod gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a ofynnodd a oedd y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd yn hoffi plant."
Cliciwch yma am yr erthygl lawn.