Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • »News
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    Press Releases

Yr ydych yn : News
Newyddion

Two boysY mae’r adran hon yn amlygu’r holl ddatblygiadau diweddaraf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru. Y mae hefyd yn darparu dolenni cyswllt i:

  • Datganiadau Plant yng Nghymru i’r wasg,
  • Plant yng Nghymru yn y newyddion
  • Taflenni newyddion Plant yng Nghymru.
  • Swyddi gweigion
  • Digwyddiadau yng Nghymru

Y mae rhagor o fanylion ynglyn â datblygiadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac archif newyddion a mathau eraill o wybodaeth ar gael yn adran Polisi y wefan hon.

Tudalen 1|2|3|4|5
Newyddion Diweddaraf
Sylwadau terfynol ar gyfer Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, 3/10/08 [C/Ll/A/GI]
Fe gyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei sylwadau terfynol ar gyfer y DU ddydd Gwener, y 3ydd o Hydref 2008.
Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed - Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018, 1/10/08 [C]
Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru lansio’u cynllun deng mlynedd newydd i leihau’r niwed a achosir gan alcohol, cyffuriau a sylweddau eraill ar y 1af o Hydref, 2008.
Gweinidog yn amlinellu rhagor o fanylion am Ad-drefnu’r GIG, 30/9/08 [C]
Fe wnaeth y Gweinidog dros Iechyd, Edwina Hart, amlinellu rhagor o fanylion am yr Ad-drefnu arfaethedig ar gyfer y GIG yn ystod y cyfarfod llawn ar y 30ain o Fedi, 2008. Fe eglurodd y Gweinidog y byddai Bwrdd Cynghori Cenedlaethol a Bwrdd Cyflawni ar wahân yn cael eu sefydlu.
Lansio Cyngor Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig, 29/9/08 [C]
UK Council for Child Internet Safety was launched on 29 September 2008. The establishment of such a council was a key recommendation in Dr Tanya Byron’s Report, ‘Safer Children in a Digital World’.
Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, heddiw yn rhoi anerchiad mewn cynhadledd plant ryngwladol fawr. Y mae Fforwm Byd 2008 yn gynhadledd tri diwrnod sy’n dod ag arbenigwyr plant ynghyd o bob cwr o’r byd i ystyried y ffyrdd gorau o ymyrryd yn gynnar pan fydd plant yn cael problemau. Fe fydd arbenigwyr sy’n mynychu’r gynhadledd yng Nghaerdydd yn trafod sut y maent yn ymyrryd yn gynnar yn eu gwledydd eu hunain mewn ystod o sefyllfaoedd. Fe wnânt ystyried materion megis iechyd meddwl, cymorth i deuluoedd, addysg ac amddiffyn plant. Fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn ystyried dulliau a all rwystro problemau rhag codi yn y lle cyntaf.
5 diwrnod yn weddill: Pobl ifanc o Gymru yn ymuno â Rali Dileu Tlodi ymysg Plant yn Llundain
Fe fydd teuluoedd o bob cwr o Gymru ymysg miloedd fydd yn gorymdeithio drwy Lundain y penwythnos hwn, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’i haddewid ynglŷn â dileu tlodi ymysg plant. Fe addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010 ond y maent mewn gwir berygl o fethu â chyrraedd y targed hwn. Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, y mae’n neilltuol o bwysig bod y Llywodraeth yn gweithredu’n eofn yn awr i sicrhau gwell dyfodol i’n plant i gyd.
Hyn yw Tlodi ymysg Plant, 26/09/08 [W/E]
Y mae Canolfan Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi adroddiad ar effeithiau ariannol, emosiynol a chorfforol tlodi ar blant.
Atgyfeiriadau, Asesiadau a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant, 2007-08, 24/09/08 [C]
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant, a gynhyrchir gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar 24 Medi 2008.
Arwr Criced i Siarad yng Nghynhadledd Wythnos Rhieni, 23/09/08 [C]
Fe fydd Robert Croft, arwr criced a thad, yn siarad yng Nghynhadledd Wythnos Rhieni o eiddo Plant yng Nghymru ar y 23ain o Hydref yn Llanfair-ym-Muallt.
Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf, 23/9/08 [W]
Fe fydd cynhadledd ryngwladol fawr yn dod ag arbenigwyr plant o bob cwr o’r byd i Gaerdydd yr wythnos nesaf. Fe fydd Fforwm Byd 2008 yn ystyried y ffyrdd gorau o ymyrryd yn gynnar pan fydd gan blant broblemau. Fe fydd cynrychiolwyr yn ystyried sut y mae ymyrraeth gynnar yn gweithio mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys amddiffyn plant, cyfiawnder ieuenctid, addysg, masnachu mewn pobl, gwaith gyda phlant sydd ag anableddau, a llawer o bethau eraill. Fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn ystyried dulliau a all rwystro problemau rhag codi yn y lle cyntaf.
Deddfwriaeth yn ymwneud â Thlodi ymysg Plant yn yr Arfaeth, 23/09/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymgorffori mewn cyfraith y targed o ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020.
Mesur Gwella Gwasanaethau Lleol, 22/09/08 [C]
Y mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, y Dr Brian Gibbons, wedi cyhoeddi cynigion i newid y ffordd y mae awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yn rhoi cyfrif am y gwasanaethau lleol y maent yn eu darparu.
Y Deyrnas Unedig i lofnodi CCUHP yn llawn, 19/09/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu llofnodi Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn llawn.
Pobl Ifanc sydd ag Anableddau Dysgu – Beth sy’n Gweithio?, 19/09/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Ymddiriedolaeth Shaw wedi cyhoeddi adroddiad ynglŷn â’r ffordd orau o gymorth pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu i bontio i gyflogaeth.
Lansio Gwefan ynglŷn ag Atebion i Dlodi Plant, 18/09/08 [C]
Y mae gwefan newydd a ddyluniwyd i gynorthwyo cynghorau a’u partneriaid i ddatblygu ymatebion lleol i ostwng tlodi ymysg plant wedi’i lansio.
Gyhyd ag y mae’n ei gymryd: gwleidyddiaeth newydd i blant, 18/09/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Gweithredu dros Blant wedi cyhoeddi adroddiad sy’n archwilio un mlynedd ar hugain o bolisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn y Deyrnas Unedig.
Arolwg Iechyd Cymru, 2007, 19/09/08 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ystadegau am iechyd pobl yng Nghymru ac am eu ffordd o fyw sy'n gysylltiedig ag iechyd yn seiliedig ar ddata o Arolwg Iechyd Cymru 2007.
Hunanladdiad a’r Rhyngrwyd – diweddaru’r gyfraith, 17/09/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae’r gyfraith ynglŷn â chynorthwyo hunanladdiad i’w symleiddio er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd a thawelu meddyliau pobl ei bod yr un mor gymwys ar y rhyngrwyd ag y mae all-lein, y mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Maria Eagle, wedi dweud.
Y mae Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yn datgelu tactegau ar-lein troseddwyr rhyw sy’n ymwneud â phlant, 12/09/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yn adrodd bod troseddwyr rhyw sy’n ymwneud â phlant yn defnyddio tactegau sy’n gynyddol fygythiol i ymhél â phlant ac i gamfanteisio ar blant, gyda rhai pedoffiliaid yn cynnal amryw o gyfrifon e-bost ac yn anfon cannoedd o negeseuon i blant bob diwrnod.
Datblygu gwasanaeth nyrs deulu i Gymru, 12/09/08 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar y broses arfaethedig o ddatblygu gwasanaeth nyrs deulu ar gyfer plant o oed ysgol uwchradd a phobl ifanc yng Nghymru. Diwedd yr ymgynghoriad: 05/12/08
Tudalen 1|2|3|4|5
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313