Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • »News
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    Press Releases

Yr ydych yn : News
Newyddion

Two boysY mae’r adran hon yn amlygu’r holl ddatblygiadau diweddaraf sy’n effeithio ar blant yng Nghymru. Y mae hefyd yn darparu dolenni cyswllt i:

  • Datganiadau Plant yng Nghymru i’r wasg,
  • Plant yng Nghymru yn y newyddion
  • Taflenni newyddion Plant yng Nghymru.
  • Swyddi gweigion
  • Digwyddiadau yng Nghymru

Y mae rhagor o fanylion ynglyn â datblygiadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac archif newyddion a mathau eraill o wybodaeth ar gael yn adran Polisi y wefan hon.

Tudalen 1|2|3|4|5|6
Newyddion Diweddaraf
£1.5 miliwn er mwyn mynd i’r afael â cham-drin domestig, 25/11/08 [C]
Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi pecyn ariannol gwerth mwy na £1.5 miliwn er mwyn cefnogi sefydliadau sy’n mynd i’r afael â cham-drin rhywiol a domestig.
Lansio Gwefan Draig Ffynci Bach, 24/11/08 [C]
Mae Draig Ffynci, cynulliad plant a phobl ifanc Cymru’n lansio gwefan newydd ar gyfer plant 6 - 11 oed. Bydd gwefan Draig Ffynci Bach yn cael ei lansio ar ddydd Llun 1af Rhagfyr 2008.
Adroddiad Rhag-gyllidebol: mesurau ar gyfer teuluoedd, 24/11/08 [C/Ll/GI/A]
Yn ei Adroddiad Rhag-gyllidebol, fe gyhoeddodd y Canghellor, Alistair Darling, amryw o fesurau i gynorthwyo teuluoedd ar incwm isel.
Oedi cyn cadarnhau siarter hawliau’r Cenhedloedd Unedig, 21/11/08 [W/E/NI/S]
Y mae Gweinidog Anableddau’r Deyrnas Unedig, Jonathan Shaw, wedi dweud y bydd y llywodraeth yn oedi cyn cadarnhau siarter hawliau anabledd y Cenhedloedd Unedig tan y flwyddyn nesaf.
Deddf Priodi dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007, 20/11/08 [C/Ll/GI]
Y mae Deddf Priodi dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007 i fod i ddod i rym ar y 25ain o Dachwedd, 2008.
Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cymru 2008, 20/11/08 [C]
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’u Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc cyntaf, sy’n tynnu ynghyd ddata ymchwil a data ystadegol ynglŷn â lles pobl ifanc 0-18 mlwydd oed yng Nghymru.
Gwefan gwybodaeth iechyd newydd ar gyfer pobl ifanc, 14/11/08 [C]
Y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio gwefan iechyd ddwyieithog newydd sbon i ddarparu gwybodaeth berthnasol, hollol gyfoes ac o ansawdd ar gyfer pobl ifanc Cymru.
Tlodi Plant yng Nghymru: Ai Addysg yw’r Ateb?, 13/11/08 [C]
Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi canfyddiadau ei ymchwiliad ar dlodi plant ac addysg.
Deddf Plant a Phersonau Ifanc 2008, 13/11/08 [C]
Fe dderbyniodd y Mesur Plant a Phersonau Ifanc Gydsyniad y Frenhines ar y 13eg o Dachwedd 2008.
Y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn lansio ymgyrch newydd ar gyfer diogelwch ar y ffordd fawr, 12/11/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dadlennu Ymgyrch PWYLLWCH! newydd gwerth £1.5 miliwn, sy’n egluro mewn modd bywiog, graffig y peryglon o beidio â chroesi’r ffordd yn ddiogel, ac y mae’n amlygu’r angen i ‘aros, edrych a gwrando’ bob tro.
Senedd yn cymeradwyo Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, 12/11/08 [C]
Fe gafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Blant Hawdd eu Niweidio ei gymeradwyo gan ddau Dy 'r Senedd ar 12 o Dachwedd 2008.
Darllenwch Filiwn o Eiriau Gyda’ch Gilydd,, 11/11/08 [C]
Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio heddiw gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, i annog bechgyn i fynd ati i ddarllen a chael boddhad o ddarllen.
Dileu tlodi ymysg plant: swyddogaeth meysydd polisi allweddol, 10/11/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Sefydliad Joseph Rowntree wedi comisiynu cyfres o adroddiadau byrion yn canolbwyntio ar rai meysydd polisi neilltuol sy’n berthnasol i’r targed ar gyfer 2020 o ddileu tlodi ymysg plant yn y Deyrnas Unedig.
Siarad â fi: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2008-2013, 04/11/08 [C]
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynllun gweithredu ddrafft i ostwng hunanladdiad a hunan-niweidio. Diwedd yr ymgynghoriad: 30/01/09
Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2009, 04/11/08 [C]
Mae Cyngor Gofal Cymru wedi lansio ei ymdrechion i chwilio am y timau a’r sefydliadau sy’n perfformio orau yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wrth roi cychwyn swyddogol ar Wobrau Gofal Cymdeithasol 2009.
DVD am fwydo ar y fron ar gyfer darpar famau, 03/11/08 [C]
Mae’r DVD ‘From Bump to Breastfeeding’, a gynhyrchwyd gan yr elusen gan Best Beginnings, yn bwriadu roi’r holl wybodaeth angenrheidiol am fwydo ar y fron i ddarpar famau.
Ymgyrch genedlaethol newydd ar fyrddau posteri yn erbyn troseddau gyda chyllyll, 03/11/08 [C/Ll]
Y mae yna ymgyrch genedlaethol newydd ar fyrddau posteri wedi’i lansio sy’n annog pobl ifanc a chymunedau i sefyll gyda’i gilydd yn erbyn troseddau gyda chyllyll.
Cyhoeddi Wythnos Genedlaethol y Teulu gyntaf Prydain, 01/11/08 [C/Ll/GI]
Y mae Wythnos Genedlaethol y Teulu wedi derbyn cefnogaeth wleidyddol drawsbleidiol, ac y mae’n cael ei chymeradwyo gan y Prif Weinidog, Gordon Brown, a gan Ed Balls, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd, a gan lu o sefydliadau ac elusennau pwysig.
Newidiadau i’r Gyfundrefn Cynhaliaeth Plant, 27/10/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae yna newidiadau arwyddocaol wedi’u gwneud i’r gyfundrefn Cynhaliaeth Plant ym Mhrydain.
Y Diwydiant Rhyngrwyd, Elusennau a Diwrnod Ymwybyddiaeth Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd, sydd â Chefnogaeth y Llywodraeth, 24/10/08 [C/Ll/GI/A]
Y mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd wedi tanlinellu pwysigrwydd eu Diwrnod Ymwybyddiaeth drwy gyhoeddi ymchwil newydd sy’n dangos bod mwy na thri chwarter (77%) oedolion y Deyrnas Unedig sy’n defnyddio’r rhyngrwyd ac sydd wedi digwydd dod ar draws delweddau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol yn ansicr sut i roi gwybod i’r awdurdodau amdanynt.
Tudalen 1|2|3|4|5|6
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313