Y mae’r rhwydwaith hwn yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, ac y mae’n agored i bob gweithiwr gofalwyr ieuainc. Y mae’r rhwydwaith yn cynnal tri chyfarfod undydd i rannu pynciau trafod a phryderon, ac i ddatblygu arferion da a hefyd i gynnal digwyddiad hyfforddi a chyfarfod dros ddeuddydd ym mis Medi bob blwyddyn.