Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Yn Eich Ardal
    Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
    Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
    Gwasanaethau Gwybodaeth Plant
    Cynghorau Gwirfoddol Sirol
    Prosiectau Anabledd
    Fframwaith ar gyfer Partneriaethau
    Canolfannau Integredig Cymru
    Swyddi gweigion
    Gwasanaethau Awdurdodau Lleol ar gyfer Plant a Theuluoedd
    Ymddiriedolaethau GIG
    » Prosiectau Magu Plant
    Diogelu Plant
    Cydgysylltwyr Cychwyn Cadarn
    Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
    Timau Troseddau Ieuenctid

Yr ydych yn : Yn Eich Ardal »Prosiectau Magu Plant »Magu Plant mewn Dinas Ewropeaidd Amlddiwylliannol
Magu Plant mewn Dinas Ewropeaidd Amlddiwylliannol

Y mae’r prosiect Magu Plant mewn Dinas Ewropeaidd Amlddiwylliannol yn datblygu Grŵp Rhieni Abertawe ac y mae croeso i bob rhiant gysylltu â’r prosiect.

Nod Grŵp Rhieni Abertawe yw cynorthwyo rhieni newydd i ganfod gwybodaeth sy’n berthnasol i rieni yn ardal Abertawe. Y mae hefyd yn berthnasol i deuluoedd ymfudwyr sydd angen canfod gwybodaeth am wasanaethau yn Abertawe. 

Fe all fod ar rieni sy’n newydd i Abertawe angen canfod gwybodaeth am y cyfundrefnau cymorth sydd ar gael iddynt.  Y mae Grŵp Rhieni Abertawe yn bwrw golwg ar y cymorth sydd ar gael ac yn gwneud argymhellion i lunwyr polisi ble’r caiff bylchau mewn darpariaeth eu nodi neu ble y byddai newidiadau mewn cyflawni yn gwneud y ddarpariaeth yn fwy addas i rieni sy’n ymfudwyr a rhieni difreintiedig.

Y mae Magu Plant mewn Dinas Ewropeaidd Amlddiwylliannol yn brosiect trawsgenedlaethol a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop fel prosiect Grundtvig 1 tair blynedd (o fis Hydref 2006 - tan fis Medi 2009).  Y mae yna un ar ddeg o bartneriaid ac fe gydlynir y prosiect gan yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion, Prifysgol Abertawe.

Y mae ar rieni sy’n newydd i ddinas a rhieni newydd angen gwybodaeth am gyfundrefnau cymorth sydd ar gael iddynt.  Fe fydd y prosiect yn rhoi cyfle i Grwpiau Rhieni fwrw golwg ar bolisi a darpariaeth sy’n bodoli eisoes ac yn paratoi Canllawiau Dinesig ac Ewropeaidd ar gyfer rhieni a theuluoedd o fewnfudwyr newydd.  Fe fydd Grwpiau Rhieni o un ar ddeg o ddinasoedd Ewropeaidd yn gweithio’n drawsgenedlaethol i gymharu canfyddiadau, nodi themâu sydd o ddiddordeb cyffredin a darparu adborth ynglŷn â newidiadau o ran polisi ac yn y gyfundrefn a fydd yn ddiwylliannol sensitif yn ogystal ag wedi’u haddasu i anghenion rhieni o ymfudwyr a rhieni sydd wedi’u hymyleiddio.

Y mae’r prosiect yn darparu gofal plant tra ei fod yn gweithio gyda rhieni, ac nid yw’n codi tâl am ei wasanaethau.

Am ragor o wybodaeth, a fyddech cystal â chysylltu â:

Magu Plant mewn Dinas Ewropeaidd Amlddiwylliannol

Adran Addysg Barhaus i Oedolion, Adeilad Glyndwr

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

SA2 8PP

Ffôn: 01792 295795

E-bost: j.james@swansea.ac.uk

Dolenni Cysylltiol
Prifysgol Abertawe
Adnoddau Cysylltiol
:Database Registration Form - Parenting in a Multicultural European City
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313