Fe gafodd y prosiect Genesis i gynorthwyo pobl di-waith, neu sydd heb gymwysterau, i oresgyn llawer o’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu pan fônt yn dymuno dysgu sgiliau newydd neu ddychwelyd i weithio ei dreialu’n llwyddiannus gan Rhondda Cynon Taf (RCT) ac y mae yn awr yn cael ei gynnig drwy Gymru ac fe’i ariannir yn rhannol gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Nod Genesis Cymru Wales yw gostwng rhwystrau a wynebir gan bobl sy’n dymuno dysgu sgiliau newydd neu ddychwelyd i weithio. Y mae’r prosiect hefyd yn gweithio ochr yn ochr â phobl i’w cynorthwyo hwynt i archwilio gobeithion a dyheadau sydd wedi’u hen anghofio, ac y mae’n darparu arweiniad a chefnogaeth i’w cynorthwyo i gyflawni’u gobeithion ac i adeiladu dyfodol disgleiriach.
Os ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel, ac y mae gofalu am blant yn eich rhwystro chi rhag datblygu sgiliau newydd a gwella’ch rhagolygon o gael gwaith cyflogedig, fe all y prosiect Genesis (unigryw i’ch cyngor lleol) gynnig cymorth ariannol a mathau eraill o gefnogaeth i’ch cynorthwyo chi i adeiladu gwell dyfodol i chi ac i’ch plant.
Y mae Genesis Cymru Wales yn darparu:
Mae manylion cyswllt ar gyfer pob awdurdod lleol ar wefan Genesis Cymru.