Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Yn Eich Ardal
    Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
    Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
    Gwasanaethau Gwybodaeth Plant
    Cynghorau Gwirfoddol Sirol
    Prosiectau Anabledd
    Fframwaith ar gyfer Partneriaethau
    Canolfannau Integredig Cymru
    Swyddi gweigion
    Gwasanaethau Awdurdodau Lleol ar gyfer Plant a Theuluoedd
    Ymddiriedolaethau GIG
    » Prosiectau Magu Plant
    Diogelu Plant
    Cydgysylltwyr Cychwyn Cadarn
    Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
    Timau Troseddau Ieuenctid

Yr ydych yn : Yn Eich Ardal »Prosiectau Magu Plant »Llinell Gymorth Ffôn Ddwyieithog
Llinell Gymorth Ffôn Ddwyieithog

Manylion Cysylltu:

Ty Eluned, Ffordd Tywyn
Abergele
Conwy
LL22 9AB

01745 827356 (ymholiadau) 01745 822228
01745 822678

carys.hughes@nch.org.uk

Gwasanaethau a Ddarperir 

Y mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd â phlant rhwng 3 ac 16 mlwydd oed sy’n cael eu cyfeirio gan asiantaeth berthnasol.

Y mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor yn uniongyrchol i rieni ar y ffôn ynglyn â materion sy’n gysylltiedig â magu plant, rheoli ymddygiad, ac yn y blaen.  Y mae’r llinell gymorth hon yn cynnig gwasanaeth strwythuredig wedi’i gynllunio ac nid llinell gymorth mewn argyfwng.  Mewn cyfres o alwadau ffôn wedi’u cynllunio, fe fydd y rhiant a’r gweithiwr yn trafod anawsterau a phrofiadau.  Fe ddilynir hyn gan dechnegau a awgrymir i’r rhiant geisio â’u gwneud gyda’u plentyn/plant i weithio tuag at newid.  Ochr yn ochr â’r cymorth ffôn, fe anfonir gwybodaeth ysgrifenedig at y rhiant.  Y mae’r gwasanaeth hwn yn neilltuol o fuddiol i’r sawl sy’n byw mewn ardaloedd ynysig na allant gael at grwpiau magu plant, neu’r sawl nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. 

Cefnogaeth un i un ar gyfer rhieni/gofalwyr ar y ffôn mewn ffordd strwythuredig wedi’i rag-gynllunio.  Y mae’r gwasanaeth yn darparu cyngor a gwybodaeth i rieni ynglyn â gwahanol ffyrdd a strategaethau ar gyfer ymdrin â magwraeth plant.

Y mae hwn yn wasanaeth cyfeirio yn unig.  Fe dderbynnir cyfeiriadau oddi wrth amryw o asiantaethau yng Nghonwy, gan gynnwys:  Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Cymorth Addysgol, Timau Ymwelwyr Iechyd, Gwasanaeth Nyrsys Ysgol, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Tîm Pediatreg yn y Gymuned, Timau Troseddau’r Ifanc yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Y mae’r gwasanaeth yn addas i famau, tadau a gofalwyr sydd â phlant rhwng 3 ac 16 mlwydd oed.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313