Canolfan Gweithredu Gwirfoddol89/90 High StreetMerthyr Tudful CF47 8UHFfôn a Ffacs: (01685) 353953E-bost: merthyr@trosgynnal.org.ukRhadffôn Pobl Ifanc: 0800 0281489
Mae Gwasanaeth Eiriolaeth a Chyfranogi Merthyr Tudful yn gweithio gyda ac ar ran plant a phobl ifanc Merthyr Tudful.
Mae’r Gwasanaeth Cyfranogi yn gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc Merthyr Tudful i lunio a chynnal fforwm plant a phobl ifanc ar gyfer y sir gyfan.
Drwy weithio gyda’r holl asiantaethau ym Merthyr drwy’r Grwp Gwrando ar Blant - sef grwp llywio sy’n adrodd yn ôl i’r Fframwaith Partneriaeth ar ddatblygiad cyfranogiad plant a phobl ifanc - mae’r gwasanaeth yn cynnig rôl gydlynol ar gyfer nodi cyfleoedd cyfranogi ac yn cefnogi mentrau hyfforddi a datblygu ar gyfer asiantaethau a grwpiau pobl ifanc drwy Strategaeth Gyfranogi Merthyr Tudful.
Ychwanegodd y gwasanaeth at ei waith cyfranogi presennol drwy lansio ei wasanaeth eiriolaeth ym Merthyr Tudful ar 24ain Medi 2004 gan Rhian Davies, Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.
Mae’r gwasanaeth Eiriolaeth yn cynnig cymorth eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc mewn gofal neu sy’n gymwys i dderbyn cymorth Plentyn mewn Angen gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.