A A English | Cymraeg

Tlodi

Dengys ffigurau a gafodd eu cyhoeddi yn 2016 fod 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.  Dwedir bod plant yn byw mewn tlodi os ydynt yn byw mewn teuluoedd ag incwm sydd o dan 60% o’r incwm canolrif.  Gall tlodi gael effaith ddifrodus ar fywyd plentyn, gyda phlant yn eisiau bwyd ac yn teimlo’n oer, ac yn llai abl i ymuno mewn gweithgareddau mae eu cymheiriaid yn eu gwneud.  Mae tlodi’n gysylltiedig â chyflawniad academaidd is ac iechyd a chyflogaeth gwaeth.

Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn gweithio i leihau lefelau tlodi plant a lliniaru’r effaith ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Rheoli a chyd-drefnu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
  • Ymwneud yn rhagweithiol â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, swyddogion ac aelodau’r Cynulliad wrth ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth a pholisïau mewn perthynas â thlodi plant
  • Cynrychioli ‘plant a phobl ifanc’ ar Grŵp Ymgynghorol Allanol Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru
  • Cynrychioli ‘Cymru’ ar Gomisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU
  • Lobio Llywodraeth y DU mewn perthynas â materion sydd heb eu datganoli, gan gynnwys diwygio lles
  • Gweithio’n rhagweithiol gyda’n cyrff aelod drwy ein fforymau a rhwydweithiau
  • Ymgysylltu â rhaglenni gwaith gweithgorau a fforymau eraill sy’n canolbwyntio ar yr agenda tlodi ehangach neu faterion polisi penodol
  • Ymgysylltu a lobio partneriaid lleol i helpu i sicrhau bod polisïau a rhaglenni ar waith yn lleol sy’n ymdrin â thlodi plant
  • Ymwneud ar lefel Ewropeaidd ynghylch materion tlodi plant a hybu gwaith a’r ymagwedd yng Nghymru trwy ein gwaith gyda Eurochild
  • Cynhyrchu ymatebion i ymgynghoriadau, nodi blaenoriaethau polisi a llunio datganiadau a chyhoeddiadau ysgrifenedig
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth arwyddbostio ar gyfer ein cyrff aelod mewn perthynas â gwasanaethau a blaenoriaethau allanol

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn cysylltwch â: Cheryl Martin, Swyddog Datblygu – Tlodi Plant, cheryl.martin@childreninwales.org.uk neu Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, sean.oneill@childreninwales.org.uk.

Newyddion

Newyddion

Datganiad i’r Wasg

Datganiad i’r Wasg

Polisi

Polisi

Hyfforddiant

Hyfforddiant

Digwyddiadau

Digwyddiadau

Adnoddau

Adnoddau