Enghreifftiau o hyfforddiant wedi ei gomisiynu
Mae’r rhestr at ddibenion darluniadol yn unig ac mae’r Uned Hyfforddiant yn eich annog i gysylltu â nhw i drafod anghenion dysgu’ch staff gan fod ganddyn nhw amrediad eang o gymrodorion arbenigol sy’n gallu ymdrin ag amrywiaeth o feysydd pwnc.
Cwrs: Diogelu ac Amddiffyn Plant
Comisiynwyd gan: Bad Bikes (corff sector gwirfoddol bach sy’n darparu gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc mewn ardal amddifadedd)
Sylwadau: Canolbwyntiodd y cynnwys ar hybu ymwybyddiaeth o faterion diogelu i bobl ifanc, i’r sawl sy’n gwirfoddoli am y gwasanaeth a’r sawl sy’n mynychu
“Wedi ei esbonio a’i gyflwyno’n dda”
“Dysgodd i ni beth allwn ni ei wneud i helpu plant”
Cwrs: Gweithio gyda Gwrywod Arwyddocaol
Comisiynwyd gan: Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluol /Datblygu’r Gweithlu Torfaen
Sylwadau: Fersiwn fyrrach o’r cwrs diwrnod llawn, wedi ei anelu’n benodol at staff blynyddoedd cynnar rheng flaen sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd
“Roedd hyfforddiant heddiw yn ddefnyddiol iawn i mi. Rwy’n teimlo fy mod i’n deall y rhwystrau sy’n wynebu gofalwyr gwryw”
“Hyfforddiant diddorol a phleserus iawn. Diolch”
Cwrs: Gweithdy mewn Cynhadledd Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid
Comisiynwyd gan: Gwasanaethau Pobl Ifanc Abertawe
Sylwadau: Gweithdy cyfranogol i archwilio’r ystyriaethau ynghylch modelau newydd i ddarparu. Cafodd y syniadau a grëwyd eu coladu a’u bwydo’n ôl i’r brif gynhadledd.
“Diolch yn fawr am gynnal y gweithdai ar ddydd Gwener. Rydym yn coladu’r holl QAQ’s a byddwn ni’n anfon copi o’r dadansoddiad terfynol. Ar ôl edrych drwyddyn nhw, dyfarnwn fod yr ymateb cyffredinol o’r gynhadledd yn dda i dda iawn ac yn dda i dda iawn ar gyfer eich gweithdai!”
Cwrs: Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol ym Maes Diogelu
Comisiynwyd gan: Awdurdodau Lleol Caerfyrddin/Ceredigion
Sylwadau: Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu i staff cymorth addysg, wedi ei lywio gan ddemograffeg leol a pholisïau sydd eisoes yn bodoli.
“Rwy’ wir wedi derbyn llawer iawn o wybodaeth am ddiogelu plant. Diolch yn fawr iawn.”
“Defnyddiol iawn wrth godi f’ymwybyddiaeth o lawer o faterion. Diolch yn fawr am sesiwn addysgiadol”
Cancellations can only be accepted in writing. Cancellations received three weeks before the date of the event will be refunded in full, less a £10 administration fee. No refunds can be made after this date, although substitutions can be made. Children in Wales reserves the right to alter event programmes at any time.
Hoffech chi dderbyn manylion am ein digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi sydd i ddod? Os ie, cliciwch yma.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks