A A English | Cymraeg

Loading Events
  • This event has passed.

“Cadw Ein Plant Yn Ddiogel” Hyfforddiant i’r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant



Dechrau:
23.01.19 9:30 yb
Diwedd:
24.01.19 4:30 yp

Lleoliad:
Caerdydd

Trefnydd:
Plant yng Nghymru

Prisiau:
*: £170.00 – £245.00


Cadwch Le Nawr

Cwrs Deuddydd

Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu, unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i gynifer o oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn.

Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn ystyried y canlynol:

  • Rôl y Person Dynodedig a sut gellir ymgorffori’r rôl honno yn eich sefydliad
  • Deddfwriaeth a chanllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig
  • Mesurau diogelu hanfodol y mae angen eu rhoi ar waith
  • ‘Camddefnyddio ymddiriedaeth’ a sut mae parhau’n effro i droseddau rhywiol posibl o fewn y sefydliad
  • Asesu pryderon am blentyn, a chyfeirio’r achos at y gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen
  • Y system amddiffyn plant statudol a’r hyn y gellir ei ddisgwyl gennych
  • Cyfrinachedd a chadw cofnodion da
  • Amrywiaeth a nodweddion ychwanegol sy’n gwneud rhai plant yn arbennig o agored i niwed

Pwy mae’r cwrs wedi’i anelu ato:

Mae rôl hanfodol i’r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn.

Ynglŷn â’r hyfforddwr

Mae Claire Sharp wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn y sector gwirfoddol a statudol, ers dros ugain mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Swyddog Hyfforddi Plant yng Nghymru. Treuliodd Claire flynyddoedd lawer yn gweithio ym maes cam-drin domestig, gan gefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol mewn llochesau ac yn y gymuned, cyn symud ymlaen i reoli Gwasanaethau Plant yng Nghymorth i Fenywod Cymru. Mae ganddi ddiddordeb parhaus wrth annog addysg a dysgu, yn ei ystyr ehangaf, ar ôl gweithio fel athro cynradd ac wrth oruchwylio ac asesu gweithwyr cymdeithasol myfyrwyr mewn timau plant a theuluoedd.

Bellach mae Claire yn hyfforddi ymarferwyr o amrywiaeth o wasanaethau, ar ystod eang o faterion, gan gynnwys hawliau plant ac amddiffyn plant. Mae Claire hefyd wedi darparu hyfforddiant Cymorth Cynnar, rhaglen wedi’i anelu at wella cydnabyddiaeth a chefnogaeth i blant anabl a’u teuluoedd trwy ddull aml-asiantaethol gyda’r plentyn yn y ganolfan. Mae Claire yn wirfoddolwr gyda UCAN Productions, cydweithrediad perfformiad a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant dall a rhannol ddall, pobl ifanc a’u ffrindiau, gan gefnogi’r plant i gael cyfleoedd i chwarae a chymdeithasu a datblygu sgiliau a hyder.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnig fel hyfforddiant mewnol hefyd, am mwy o wybodaeth cysylltwch â training@childreninwales.org.uk.

Sicrhewch fod gennych rif archeb brynu wrth law wrth wneud eich archeb. Dylech ei gael gan eich adran gyllid.

Cliciwch yma i ddod yn aelod o Plant yng Nghymru
AD-DALIADAU:
Dim ond yn ysgrifenedig y gellir canslo. Ad-delir archebion a ganslir a dderbynnir dair wythnos cyn dyddiad y digwyddiad llai £10 tâl prosesu. Ni fedrir gwneud unrhyw ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, er y medrir anfon dirprwyon. Mae Plant yng Nghymru yn cadw'r hawl i newid rhaglenni digwyddiad ar unrhyw amser.

Hoffech chi dderbyn manylion am ein digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi sydd i ddod? Os ie, cliciwch yma.