Y mae Plant yng Nghymru yn cefnogi datblygu gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer gofalwyr ieuainc drwy:-
Hwyluso'r rhwydwaith ar gyfer gweithwyr Gofalwyr Ieuainc
Y mae’r rhwydwaith hwn yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, ac y mae’n agored i bob gweithiwr gofalwyr ieuainc. Y mae’r rhwydwaith yn cynnal tri chyfarfod undydd i rannu pynciau trafod a phryderon, ac i ddatblygu arferion da a hefyd i gynnal digwyddiad hyfforddi a chyfarfod dros ddeuddydd ym mis Medi bob blwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth, a fyddech cystal â chysylltu â Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru neu Lynn Williams, Cadeirydd y Rhwydwaith.