Y mae’r is-grwp hwn, sy’n canolbwyntio ar y materion neilltuol ar gyfer gofalwyr ieuainc, wedi bod yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn ac yr oedd yn cynnwys 5 cynrychiolydd o grwpiau gofalwyr ieuainc.
Gwaith cychwynnol panel y gofalwyr ieuainc oedd nodi diffiniad cytûn o ofalwyr ieuainc, a datblygu pecyn hyfforddi i’w ddefnyddio mewn ysgolion i gynorthwyo athrawon i ganfod a chefnogi gofalwyr ieuainc.
Y mae’r pecyn yn cynnwys: -
Fe ellir cael gwybodaeth am y pecyn hwn oddi wrth Gavin Parry, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ffôn: 029 2082 5111.
Y mae yna ar hyn o bryd gynlluniau yn cael eu trafod i newid y ffordd y mae’r grwp hwn yn cael ei gynnull er mwyn gallu ennyn diddordeb mwy o’r gofalwyr ieuainc eu hunain.