Y mae’r adran hon yn amlinellu’r gwaith y mae Plant yng Nghymru yn ei wneud yn gysylltiedig â Gofalwyr Ieuainc
Fe ddylid cyfeirio ymholiadau yn ymwneud â’r gwaith hwn at: Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Ffôn: 029 2034 2434"Y mae gofalwr ifanc yn cymryd cyfrifoldeb am rywun sy’n wael, anabl, oedrannus, sy’n profi gwewyr meddwl neu yr amharir arno gan y defnydd o sylweddau, neu sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ofalu am frawd neu chwaer. Y mae’r sawl y maent yn gofalu amdanynt fel arfer yn rhieni neu’n frodyr a chwiorydd.
Fe allai gofalwr ifanc ddod o unrhyw deulu ac y mae’n rhaid ei fod o dan 18. Fe allant fod yn darparu’r holl ofal neu’n cynorthwyo rhywun arall i ddarparu gofal.
Y mae’r gofal y maent yn ei ddarparu yn golygu nid yn unig y pethau a welwch – fel newid rhwymynnau, coginio, glanhau neu gynorthwyo rhywun i ddefnyddio’r toiled neu i ymolchi – ond hefyd bethau na allwch eu gweld, megis sut y mae’r gofalwr ifanc yn teimlo neu’n meddwl oherwydd ei swyddogaeth yn gofalu."
Fe ddatblygwyd y diffiniad hwn gan grwp o ofalwyr ieuainc, a oedd yn rhan o Banel Cynghori’r Gofalwyr Ieuainc.
Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio i Gefnogi Gofalwyr Ieuainc