Nid yw'r grwp yn cwrdd rhagor. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag:
Anita Myfanwy, Ffôn: 01286 677570 Ebost: anita.myfanwy@childreninwales.org.uk
Materion a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf
Cynhelir cyfarfod blynyddol ar y cyd rhwng y Grŵp Cefnogi Sefydliadau Gwirfoddol Gogledd Cymru a 'r Grŵp Cyfnewid Gwybodaeth Hawliau Plant Gogledd Cymru. Yn 2009, cynhaliwyd y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2009 yng Nglasdir, Llanrwst. Mynychodd aelodau o'r ddau grŵp lle bu trafodaeth ar amryw o bynciau gan gynnwys y cyflwyniadau canlynol:
Papyrus gan Anne Parry. Sefydlwyd yr elusen Papyrus gan rieni sydd wedi colli mab neu ferch i hunanladdiad. Mae Papyrus yn gweithio tuag at rwystro hunanladdiad mewn pobl ifanc ac un o'i amcanion yw cynrychioli pobl sydd wedi eu heffeithio gan hunanladdiad, nid I rieni yn unig. Mae gan Papyrus safle we www.papyrus-uk.org a llinell gymorth sydd wedi ei leoli yn Abertawe o'r enw HOPELineUK a'r rhif yw: 0870 170 4000 neu 01978 367333 ac mae ar agor pob diwrnod o'r flwyddyn.
Dan Straen! Pecyn i Athrawon gan Gareth Thomas & Pat Doorbar, TJB Cymru. Sefydlwyd TJB Cymru yn 2001 ac mae wedi ei leoli ym Mhenryndeudraethh. Yn dilyn ymchwil ar ganfyddiadau materion iechyd a lles preswylwyr gwledig Conwy, cynhyrchodd TJB Cymru becyn i athrawon i alluogi plant i ddysgu am beth sy'n achosi straen, yr affeithiau ar y corff a thechnegau ar sut i leihau'r symptomau. Am wybodaeth bellach e-bostiwch Gareth Thomas ar gareth@tjbcym.net.
Cyflwyniad ar waith yr Uned Cefnogi Partneriaethau (UCP) gan Hawis Jones. Mae'r UCP yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cafodd ei sefydlu fel ymateb i'r angen a welwyd i gefnogi gweithredu Deddf Plant 2004 yng Nghymru, cryfhau gwaith partneriaethau a chynllunio'n strategol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc. Diben UCP yw helpu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy gefnogi gwaith partneriaeth a chynllunio strategol.
Cofnodion o gyfarfodydd blaenorol