Mae Plant yng Nghymru yn cynnal ystod o waith i gefnogi sector gwirfoddol y plant yng Nghymru. Y mae hyn yn cynnwys:
Cynrychiolaeth ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Y mae Plant yng Nghymru yn cynrychioli Sector Gwirfoddol y Plant ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector(CPyTS). CPyTS yw’r corff allweddol sy’n galluogi’r sector gwirfoddol a’r Cynulliad Cenedlaethol i gyfathrebu parthed materion allweddol. Y mae mwy o wybodaeth am GPySG a chyfarfodydd a gynhelir rhwng y sector gwirfoddol a Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gael yn adran Polisi y wefan hon.
Fe ddylai’r sawl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol a hoffai godi materion yng Nghyngor Partneriaeth y Trydydd Sector neu yn y cyfarfodydd gyda Gweinidogion gysylltu ag Sian Thomas, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: sian.thomas@childreninwales.org.uk
Grwp Cefnogi Mudiadau Gwirfoddol Gogledd Cymru
Y mae Plant yng Nghymru yn cydlynu cyfarfodydd cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru drwy Grwp Cefnogi Mudiadau Gwirfoddol Gogledd Cymru. Y mae’r grwp hwn yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn ac y mae’n trafod ystod o faterion sydd o ddiddordeb i’r sawl sydd yn y sector gwirfoddol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Allison Hughes, Plant yng Nghymru, Ffôn: (01286) 677570, E-bost: Allison.Hughes@childreninwales.org.uk
Rhwydwaith Cynnwys Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPinCYMRU)
Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio gyda CWVYS (Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol), cynrychiolwyr y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC), a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i hwyluso cyfarfodydd chwarterol o’r Rhwydwaith Cynnwys Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (CYPPinCYMRU). Fe anelir y cyfarfodydd hyn at gynrychiolwyr o bob un Cyngor Gwirfoddol Sirol sy’n gysylltiedig â gwaith partneriaeth yn y Partneriaethau Plant a Phartneriaethau Pobl Ifanc ac ymgysylltu â’r sector gwirfoddol. Y mae’r Rhwydwaith yn darparu cyfle delfrydol i rannu arferion gorau, gwybodaeth a phryderon ac y mae hefyd yn annog cysylltiadau gydag asiantaethau eraill gyda chyfarfodydd yn y gorffennol yn cael eu mynychu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ESTYN - Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg. a Hyfforddiant yng Nghymru, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yr ydym ar hyn o bryd yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ymagweddiad cydgysylltiedig ledled y sector gwirfoddol yng Nghymru parthed codi ymwybyddiaeth o ddiogelu plant a phobl ifanc mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ynglŷn â’r cynllun archwilio cefndir ac atal newydd.
Os hoffech fynychu’r Rhwydwaith i roi cyflwyniadau neu i ymgynghori â’r grŵp, yna a fyddech cystal â chysylltu â Sarah Thomas yn Plant yng Nghymru, E-bost: sarah.thomas@childreninwales.org.uk, Ffôn: 029 2034 2434 neu Veronica Wilson yng Nghyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.