Lawerlwychwch Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
Fe roddwyd y gorchwyl i'r GAGAPCG i gynhyrchu a diweddaru Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru gyfan. Y mae gan y grŵp archiad a chynrychiolaeth oddi wrth bob un o Bwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant (PAAP) Cymru (a Byrddau Lleol Diogelu Plant yn y dyfodol) ac asiantaethau sy'n bartneriaid.
Y mae’r grwp hefyd yn cynhyrchu protocolau eraill, sy’n briodol i Gymru gyfan ac sy’n llwyfan ar gyfer rhannu arferion da ledled Cymru.
Y mae’r GAGAPCG yn cyfarfod yn rheolaidd yn Llandrindod. Jill Green yw'r cadeirydd a Kathryn Lewis yw'r dirprwy gadeirydd.
Y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan - 2008
Prif waith y grwp yn ystod 2007 oedd ail-ysgrifennu'r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2002.
Y maent bellach wedi’u hailysgrifennu a’u diwygio’n sylweddol i gymryd i ystyriaeth newidiadau mwy diweddar mewn polisi a deddfwriaeth. Y mae hyn yn cynnwys yr argymhellion yn Adroddiad Ymchwiliad Victoria Climbié; Deddf Plant 2004; a’r canllawiau sy’n mynd gyda hwynt, Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004, a gyhoeddwyd ‘llynedd. Y mae’r gweithdrefnau newydd wedi’u cynhyrchu ar ran holl Fyrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru, ac y mae’r diwygiadau wedi’u gwneud gan y Grŵp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. Y mae’r dyddiad gweithredu ar gyfer y gweithdrefnau hyn sydd wedi’u diweddaru wedi’i gytuno ar gyfer y 1af o Ebrill, 2008. Y bwriad yw y bydd diweddariadau blynyddol yn cael eu cynhyrchu i ymateb i newidiadau yn y dyfodol a fydd yn ffurfio rhan o gynllun gwaith dyfodol y Grwp Adolygu Gweithdrefnau Plant Cymru Gyfan.
Y mae’r Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn rhan hanfodol o’r agenda ehangach o ddiogelu plant a hyrwyddo’u lles. Y mae’r safonau cyffredin y maent yn eu darparu yn tywys ac yn goleuo ymarfer amddiffyn plant ym mhob un o’r 22 o Fyrddau Lleol Diogelu Plant ledled Cymru. Y maent yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer pennu sut y mae atgyfeiriadau, gweithredoedd a chynlluniau unigol ar gyfer amddiffyn plant yn cael eu gwneud a’u gweithredu. Y maent wedi’u seilio ar yr egwyddor bod amddiffyn plant rhag niwed yn gyfrifoldeb i’r holl unigolion ac asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd, a gydag oedolion a all fod yn risg i blant. Y mae gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu rhwng asiantaethau’n cael eu nodi fel bod yn allweddol er mwyn adnabod plant sy’n agored i niwed ac i gynorthwyo i’w cadw hwynt yn ddiogel rhag niwed a chamdriniaeth.
Yn unol â Deddf Plant 2004, fe fydd gan bob un Bwrdd Lleol Diogelu Plant rôl a chyfrifoldeb allweddol ar gyfer sicrhau bod y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan diwygiedig yn cael eu gweithredu’n llawn o fewn eu hardaloedd. Fe fydd yn rhaid iddynt hefyd gadw golwg ar eu heffeithiolrwydd.
Fe ddaeth Gweithdrefnau 2008 yn weithredol ledled Cymru ar y 1af o Ebrill, 2008.
Fe ellir gwneud ceisiadau ar gyfer copiau caled trwy'r Byrddau Lleol Diogelu Plant.
Fe ellir lawrlwytho fersiwn PDF oddi ar y wefan hon ar y ddolen isod: