"Mae Cyfranogiad yn golygu bod gen i’r hawl i gael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw weithred a all effeithio arna i. Cael Llais, Cael Dewis"
Yn 2005, cynhaliodd y Llywodraeth gystadleuaeth yn gofyn i bobl ifanc grynhoi ystyr cyfranogiad a dyma'r brawddeg a enillodd.
Mae Consortiwm Cyfranogaeth Pobl Ifanc, yr Uned Cyfranogaeth a Phrosiect Cyfranogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc (0-25) yn y broses benderfynu yng Nghymru. Yr ydym wedi datblygu set o Safonau Cenedlaethol ar gyfer cyfranogaeth sy’n berthnasol i bob mudiad sy’n gweithio gyda neu sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru’n cael profiad positif ac ystyrlon wrth gyfranogi. Am ragor o wybodaeth, welwch yr adnoddau canlynol:
Adnoddau Defnyddiol
Canllawiau Blast Off - Cyfres o ganllawiau ymarfer da a gynhyrchwyd gan yr Uned Cyfranogaeth, sydd wedi'u seilio ar brofiadau gweithwyr cyfranogaeth yng Nghymru. Y mae yna ar hyn o bryd 9 o ganllawiau ymarfer da, gyda mwy yn yr arfaeth yn y dyfodol, ac y mae pynciau’n amrywio o gyflwyno cyfranogaeth i ganolbwyntio ar gyfranogaeth mewn ffurfiau ac amgylcheddau neilltuol.
Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru - Mae’r Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru, yr Uned Cyfranogiad a prosiect Cyfranogiad y Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu set of Safonau Cenedlaethol ar gyfer cyfranogaeth sydd yn berthnasol I bob sefydliad sydd yn gweithio gyda plant a phobl ifanc.
A Ydym yn Diwallu’ch Anghenion: Pecyn Hunan-asesu Safonau Cenedlaethol Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc - Y bwriad wrth wraidd y pecyn, a ddatblygwyd gan yr Uned Cyfranogaeth, yw cynorthwyo sefydliadau i gasglu gwybodaeth i arddangos cyfranogaeth plant a phobl ifanc.
Adnoddau Cyfranogi Y mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am adnoddau a phecynnau cymorth i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i’w cynnwys hwynt mewn prosesau llunio penderfyniadau.
Barn Plant a Phobl Ifanc - Y mae’r adran hon yn darparu manylion ynglyn ag adroddiadau, sy’n amlygu’r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl am amrywiaeth o bynciau.
Nod y PWNW (Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru) yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gyda hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc a gwneud cyfranogiad plant a phobl ifanc yn wirionedd ledled Cymru.
Fe gynhelir y PWNW gan Plant yng Nghymru ar ran Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru, corff strategol amlasiantaethol sy’n adeiladu cynhwysedd ar gyfer datblygu cyfranogiad yng Nghymru.
Lansio gwefan PWNW
Cysylltwch â’r rhwydwaith
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, fe allwch gysylltu ag Ed Janes, Swyddog Datblygu y PWNW, ar 029 2034 2434 neu drwy e-bost yn ed.janes@childreninwales.org.uk