"Mae Cyfranogiad yn golygu bod gen i’r hawl i gael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw weithred a all effeithio arna i. Cael Llais, Cael Dewis" Yn 2005, cynhaliodd y Llywodraeth gystadleuaeth yn gofyn i bobl ifanc grynhoi ystyr cyfranogiad a dyma'r brawddeg a enillodd.
Ed JanesSwyddog Datblygu Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad CymruFfôn: 029 2034 2434
Mae Consortiwm Cyfranogaeth Pobl Ifanc, yr Uned Cyfranogaeth a Phrosiect Cyfranogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc (0-25) yn y broses benderfynu yng Nghymru. Yr ydym wedi datblygu set o Safonau Cenedlaethol ar gyfer cyfranogaeth sy’n berthnasol i bob mudiad sy’n gweithio gyda neu sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru’n cael profiad positif ac ystyrlon wrth gyfranogi.
Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru
Nod y PWNW (Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru) yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gyda hyrwyddo cyfranogiad plant a phobl ifanc a gwneud cyfranogiad plant a phobl ifanc yn wirionedd ledled Cymru. Fe gynhelir y PWNW gan Plant yng Nghymru ar ran Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru, corff strategol amlasiantaethol sy’n adeiladu cynhwysedd ar gyfer datblygu cyfranogiad yng Nghymru.
www.participationworkerswales.org.uk/
Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y prosiect Cyrraedd y Nod, yn cymorth pobl ifanc i ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio yn y gymuned.