Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Cyrraedd y Nod i Deuluoedd?
  • Fforwm Magu Plant
  • Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau
    Tyfu Fyny gyda Dad
    Rhwydwaith Dynion mewn Gofal Plant (Cymru)
    Y mae tadau yn bwysig oherwydd:
    Fforwm Tadolaeth Cymru
    Grwp Llywio
    » Datganiad Safbwynt Plant yng Nghymru ynglyn â Gwei
  • Gwybodaeth i Rieni
  • Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru
  • Bod yn daid a nain yng Nghymru

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Magu Plant »Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau »Datganiad Safbwynt Plant yng Nghymru ynglyn â Gweithio gyda Thadau
Datganiad Safbwynt Plant yng Nghymru ynglyn â Gweithio gyda Thadau
  • Hawliau ac anghenion y plentyn sy’n cael y brif ystyriaeth, ac y mae plant wrth graidd yr holl waith y mae’r gweithiwr Tadolaeth yn ei wneud.
  • Y mae holl agweddau tadolaeth yn cael eu cwmpasu o fewn cylch gwaith y gwaith. Hynny yw, mewn teuluoedd dau riant, rhieni unigol, rhieni sydd wedi gwahanu a llys-rieni.
  • Y mae’r holl waith yn ymwneud â thadau yn digwydd o fewn cyd-destun magu plant yn gadarnhaol, gan gynnwys hyrwyddo dulliau heb fod yn gorfforol sy’n wahanol i’r dulliau corfforol traddodiadol. 
  • Fe fydd gwaith tadolaeth yn gweithredu o fewn cyd-destun ac ochr yn ochr â Fforwm Magu Plant.
  • Fe fydd Plant yng Nghymru yn gweithio i hyrwyddo buddiannau tadau fel ag y maent yn ymwneud â hawliau ac anghenion eu plant, gan ddefnyddio’r amrywiaeth o lwybrau y maent yn eu defnyddio i hyrwyddo unrhyw faterion polisi neu ymarfer. 
  • Hyrwyddo safle tadau gyda magu plant fel un sydd ar wahân ac yn wahanol i famau yng nghyd-destun magu plant.
  • Fe ddylai’r holl waith yn ymwneud â thadau fod yn gynhwysol ac yn sensitif i faterion cydraddoldeb, e.e., pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, plant anabl, plant mewn angen, plant o berthynas un rhyw, a phlant cyplau sy’n cyd-fyw.

Y mae’r gwerthoedd hyn yn adlewyrchu’r rheiny a fynegir yn Erthyglau 9, 12 a 18 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Y mae’r math o ystrydebu rhyw sy’n gweld mamau fel y prif ofalwyr dros blant a phobl ifanc yn dal yn gyffredin yma yng Nghymru.  Dim ond pan fydd tadau at ei gilydd wedi peri newid diwylliannol sylweddol yn y ffordd yr ydym ni fel cymdeithas yn magu’n plant, ac wedi dod yn fwy cysylltiedig â’u plant, y bydd y llysoedd yn cymeryd safbwynt mwy hyblyg mewn achosion gwahanu.  Y mae’r newid hyn eisoes yn digwydd; y mae bron draean o’r holl waith gofal plant yn y Deyrnas Gyfunol heddiw yn cael ei wneud gan dadau, ac y mae Plant yng Nghymru yn wirioneddol ar flaen y gad yn herio llawer o’r ystrydebau rhyw hyn.  Fe ddylid cynnig i holl dadau, nid dim ond y sawl mewn achosion gwahanu, nid yn unig y cyfleoedd, ond hefyd y medrau angenrheidiol i ddod yn fwy cysylltiedig â magwraeth eu plant.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313