Y mae gwaith Fforwm Tadolaeth Cymru yn cael ei ddiffinio a’i gymell gan grwp llywio sy’n cynnwys amryw o bartneriaid allweddol, megis Fathers Direct, Comisiynydd Plant Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ogystal â chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol, megis Action for Children – Gweithredu dros Blant, Barnardos, ac yn y blaen.
Y mae’r grwp llywio hefyd yn gallu defnyddio arbenigedd aelodau unigol Tadolaeth Cymru, yn ymwneud â, ac yn benodol i, y gorchwyl dan sylw. Y mae’r hyblygrwydd hwn yn galluogi’r grwp i roi sylw i faterion penodol yn y modd gorau heb fod yna angen i aelodau fynychu cyfarfodydd ynglyn â phynciau nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â hwynt.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch, os gwelwch yn dda, â: tony.ivens@childreninwales.org.uk
Adnoddau o Gyfarfodydd Blaenorol
15/12/09: DCSF & DoH: Getting Maternity Services Right for Pregnant Teenagers and Young Fathers