Y siaradwr gwadd ar gyfer cyfarfod Rhagfyr 2005 oedd Tom Beardshaw o Fathers Direct, a roes gyflwyniad ynglyn â’r Marc Ansawdd Tadolaeth.
Y mae’r Marc Ansawdd Tadolaeth yn cynorthwyo darparwyr gwasanaeth i ddangos eu bod o ddifri’ ynglyn â deall a chryfhau perthynas plant gyda’u tadau. Gan gael ei hategu gan wybodaeth, mentora a hyfforddiant, y mae’r gyfundrefn Marc Ansawdd Tadolaeth yn dilysu’r hyn yr ydych eisoes yn ei wneud, ac y mae’n eich cynorthwyo i gynllunio a datblygu strategaethau mwy effeithiol ar gyfer y dyfodol, sydd wedyn yn cael eu hasesu’n allanol.
Y mae’r Marc Ansawdd Tadolaeth wedi tyfu o broses ymgynghori dwy flynedd, a gomisiynwyd gan y llywodraeth i ddatblygu safonau ar gyfer ymarfer sy’n gydnaws â thadau.
Mae yna mwy o wybodaeth ar gael oddi ar wefan The Fatherhood Institute.