Y mae’r gwerthoedd hyn yn adlewyrchu’r rheiny a fynegir yn Erthyglau 9, 12 a 18 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Y mae’r math o ystrydebu rhyw sy’n gweld mamau fel y prif ofalwyr dros blant a phobl ifanc yn dal yn gyffredin yma yng Nghymru. Dim ond pan fydd tadau at ei gilydd wedi peri newid diwylliannol sylweddol yn y ffordd yr ydym ni fel cymdeithas yn magu’n plant, ac wedi dod yn fwy cysylltiedig â’u plant, y bydd y llysoedd yn cymeryd safbwynt mwy hyblyg mewn achosion gwahanu. Y mae’r newid hyn eisoes yn digwydd; y mae bron draean o’r holl waith gofal plant yn y Deyrnas Gyfunol heddiw yn cael ei wneud gan dadau, ac y mae Plant yng Nghymru yn wirioneddol ar flaen y gad yn herio llawer o’r ystrydebau rhyw hyn. Fe ddylid cynnig i holl dadau, nid dim ond y sawl mewn achosion gwahanu, nid yn unig y cyfleoedd, ond hefyd y medrau angenrheidiol i ddod yn fwy cysylltiedig â magwraeth eu plant.