Y mae Plant yng Nghymru yn gwneud ystod o waith yn gysylltiedig â thadau. Y mae’r adran hon yn amlinellu pam fod y gwaith hwn yn bwysig, ein datganiad safbwynt o ran tadau, a gwaith Fforwm Tadolaeth Cymru.
Pam fod Tadau yn Bwysig
Y mae tadolaeth mewn cyfnod o newid a thrafod. Y mae tadau fwyfwy yn rhannu gofal plant gyda mamau, yn enwedig pan fo’r ddau riant yn gweithio ac y mae ystrydebu rhyw o ran swyddogaethau a esblygodd o ganlyniad i’r Chwyldro Diwydiannol yn dechrau ymddatod. Y mae’r patrymau hyn i’w hystyried yn erbyn cefndir o newidiadau enfawr mewn bywyd teuluol. Y mae 4 o bob 10 o fabanod yn awr yn cael eu geni i gyplau sy’n cyd-fyw, gyda’u cyfraddau uchel o dor-perthynas. Hyd yn oed mewn perthnasau traddodiadol, fe fydd nifer cyffelyb o blant, tua 40%, wedi cael profiad o weld eu rhieni yn gwahanu erbyn y byddant yn 16 mlwydd oed.
Yn ychwanegol, y mae mwy o ferched yn awr yn mynd i’r gweithle, gyda dwy ran o dair o famau gyda phlant dibynnol yn awr naill ai’n gweithio neu wrthi’n brysur yn chwilio am waith. Y mae’r mwyafrif o’r rhain, fodd bynnag, yn gweithio’n rhan amser. Ar yr un pryd, y mae cyfaint y gwaith a wneir gan dadau oddeutu dwy ran o dair yn uwch na’r hyn a wneir gan famau. Tadau yn y Deyrnas Gyfunol heddiw sy’n gweithio’r oriau hwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd, ac ymrwymiadau gwaith yw’r rheswm a nodir yn fwyaf cyffredin fel y peth sy’n rhwystro tadau rhag cymeryd mwy o ran gyda magu’u plant. Er gwaethaf y ffaith hon, y mae tua thraean o ofal plant gweithredol gan rieni yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan dadau.
Y mae llu o astudiaethau wedi dangos y byddai’r mwyafrif llethol o ddynion yn y Deyrnas Gyfunol heddiw yn croesawu’r cyfle i fod yn fwy cysylltiedig â’u plant.