Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
    • Adnoddau
    • Rhwydwaith Cydgysylltwyr Rhianta
    • Fforwm Magu Plant
    • Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru
    • Bod yn daid a nain yng Nghymru
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Adnoddau
Adnoddau

Gwerthuso

Gall mesur effaith eich prosiect neu ymyrraeth roi tystiolaeth o werth am arian a bod yr ymyrraeth a ddewiswyd wedi cael y canlyniad a fwriadwyd i’r teulu. Mae’r llyfryn canlynol a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Teuluoedd a Rhianta yn cynnig arweiniad defnyddiol:

Mesur eich effeithiolrwydd eich hun gyda theuluoedd, rhieni a phlant: arweiniad byr i werthuso a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Teuluoedd a Rhianta. Mae modd archebu hwn drwy fynd i’w gwefan .

Rhaglenni Rhianta

Mae llu o raglenni rhianta ar gael ond nid yw pob un wedi cael ei gwerthuso’n drylwyr. Mae arweiniad Llywodraeth Cymru ar gyfer Dechrau’n Deg yn cynnwys argymhellion ar raglenni rhianta sy’n briodol ar gyfer plant cyn oedran ysgol.

Mae Fframwaith Rhianta Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am raglenni rhianta a’r gwerthusiad sydd wedi ei gynnal arnynt. Ewch i’w gwefan i weld hwn.

Mae Sir y Fflint wedi cynhyrchu dogfen helaeth sy’n edrych ar addasrwydd gwahanol raglenni rhianta a’r dystiolaeth i’w cefnogi.  Gallwch lawrlwytho’r ddogfen hon yma.

Nod y Pecyn Cymorth Comisiynu a ddatblygwyd gan Academi Genedlaethol Ymarferwyr Rhianta (bellach yn rhan o Gyngor Datblygu’r Gweithlu Plant yn Lloegr) yw helpu comisiynwyr i wneud dewisiadau gwybodus am ba mor addas y gallai rhaglen benodol fod wrth ddiwallu anghenion rhieni penodol. Mae’r Pecyn Cymorth Comisiynu yn gwerthuso ac yn graddio ansawdd ac effeithiolrwydd rhaglenni rhianta gan ddefnyddio’r Offer Gwerthuso Rhaglenni Rhianta.

Efallai y bydd y papurau canlynol o gymorth hefyd:

Reaching parents: Improving take-up of parenting programmes: guide to promoting access to parent education programmes and maintaining attendance, Social Care Institute for Excellence SCIE 2009
What Works in Parenting Support? A Review of the International Evidence, Patricia Moran, Deborah Ghate ac Amelia van der Merwe, Policy Research Bureau Research, 2004
The delivery of parent skills training programmes: Meta-analytic studies and systematic reviews of what works best, y Sefydliad Teuluoedd a Rhianta Supervising family and parenting workers: a short guide, Honor Rhodes, y Sefydliad Teuluoedd a Rhianta

Rhieni ac Ysgolion

Mae rhieni’n chwarae rôl uniongyrchol wrth helpu eu plant i ddysgu, yn enwedig ar odran gynnar. Dangoswyd bod cyfranogiad rhieni yn addysg plentyn yn ffactor mewn gwell presenoldeb, cyflawniad ac agweddau cadarnhaol at ddysgu. Hefyd dangoswyd bod cyfranogiad tadau yn ganolog. Mae nifer o bapurau sy’n darparu tystiolaeth o hynny:

The Impact of Parental Involvement on Children’s Education, DCSF 2008
The Impact of Parental Involvement, Parental Support and Family Education on Pupil Achievements and Adjustment: A Literature Review Yr Athro Charles Desforges gydag Alberto Abouchaar, DCSF 2003
Predicting adult life outcomes from earlier signals: modelling pathways through childhood, Adroddiad i HMT, Leon Feinstein, 2006

Mae’r papur canlynol yn ffynhonnell ddefnyddiol syniadau ymarferol am gynnwys rhieni yn yr ysgol gynradd:

Arfer da o ran cynnwys rhieni mewn ysgolion cynradd, Estyn, 2009

Mae gwefan Early Home Learning Matters yn dod â thystiolaeth ynghyd  ynghylch y rôl hanfodol mae rhieni’n ei chwarae yn nysgu cynnar eu plentyn ac yn darparu adnoddau ymarferol ar gyfer dysgu cynnar plant o’u geni i 5 mlwydd oed.

Mae’r adroddiad dilynol yn rhoi manylion canfyddiadau o arolwg meintiol a gynhaliwyd yn 2006 gan Plant yng Nghymru a edrychodd ar bwnc cyfranogiad rhieni yn addysg eu plant:

Rhieni ac Ysgolion – Creu’r Cysylltiad: Archwiliad o’r berthynas rhwng rhieni ac ysgolion yng Nghymru Cyfranogiad/ ymglymiad rheini

Drwy ddatblygu gwasanaethau mewn partneriaeth â rhieni, maent yn fwy tebygol o fod yn ddefnyddiol iddynt ac i gael eu defnyddio’n dda. Mae’r canllaw dilynol wedi cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru i gynnig model ar gyfer cyfranogiad rhieni ac yn rhoi enghreifftiau ymarferol:

Cyfranogiad Rhieni: Canllaw Ymarferol ar gyfer Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2005

Efallai y bydd y papur canlynol o gymorth hefyd:

Reaching parents: Improving take-up of parenting programmes: guide to promoting access to parent education programmes and maintaining attendance, y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth 2009 

Gwybodaeth i’r teuluoedd rydych yn gweithio gyda hwy

Mae ein gwefan yn cynnwys amrediad o adnoddau am ddim ar gyfer rhieni a manylion ffynonellau cefnogaeth a gwybodaeth sydd ar gael mewn gwahanol rannau o Gymru.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Adnoddau

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence