Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • 'Sdim Curo Plant!
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Y Cyfryngau
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
    • Adnoddau
    • Rhwydwaith Cydgysylltwyr Rhianta
    • Fforwm Magu Plant
    • Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau
    • Gwybodaeth i Rieni
    • Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru
    • Bod yn daid a nain yng Nghymru
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Safonau Galwedigaethol  ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru
Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru

Beth yw Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol?

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ddatganiadau o gymhwysedd* y cytunwyd yn genedlaethol arnynt sy’n disgrifio’r hyn y mae gweithiwr effeithiol a chymwys yn ei wneud ac y mae arno angen ei wybod i ddarparu ansawdd yn ei waith.

*Fe ddiffinnir cymhwysedd fel "y gallu i berfformio hyd at y safon sy’n ofynnol mewn cyflogaeth ledled ystod o amgylchiadau ac i ddiwallu anghenion sy’n newid." (QCA).

Fe gafodd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni eu datblygu mewn ymgynghoriad â’r sector, ac fe’u cymeradwywyd gan gyrff Rheoliadol y Deyrnas Unedig (QCA, SQA, ACCAC a QCA NI) ar y 26ain o Ebrill, 2005. Maent yn gymwys i Gweithio gyda Rhieni ledled y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig.  

Fe gafodd Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Dysgu fel Teulu hefyd eu datblygu ac fe’u cymeradwywyd ar yr un pryd.  Mae yna rywfaint o dir cyffredin rhwng y ddwy gyfres o safonau.

Fe ellir defnyddio’r safonau i:

  • Adnabod cymwyseddau a enillwyd yn flaenorol;
  • Nodi bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau;
  • Meincnodi arferion gyferbyn â’r safonau;
  • Sicrhau bod hyfforddiant yn berthnasol i rolau swyddi;
  • Hwyluso hunan-asesu;
  • Cynorthwyo i ddatblygu a chadw gweithlu mwy effeithiol;
  • Cefnogi adolygu a chynllunio cyfundrefnol;
  • Gwella recriwtio;
  • Galluogi staff i gyflawni drwy’r gweithle.            

Y buddion o ddefnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Ar gyfer Sefydliadau:

Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ffurfio cyfres barod o gymwyseddau y cytunwyd arnynt ledled y pedair cenedl.  Fe ellir eu defnyddio i gymorth unrhyw sefydliad i:

  • Gwella recriwtio a chyfansoddiad timau drwy swydd-ddisgrifiadau, manylebau person a chyfweld yn effeithiol;
  • Sicrhau bod staff yn sicr ynglŷn â’u cyfrifoldebau a’u gweithgareddau gwaith;
  • Cynorthwyo i ddatblygu a dal gafael ar weithlu medrus, sydd wedi’u cymell yn dda a hyblyg; 
  • Arfarnu perfformiad unigol a darparu adborth â ffocws i staff; 
  • Nodi bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau;
  • Gostwng costau hyfforddi drwy gynllunio effeithiol ar raglenni dysgu a datblygu ac asesu yn y gwaith;
  • Annog staff i ennill sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gwell rhagolygon gwaith;
  • Sicrhau bod staff yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol; 
  • Mesur perfformiad gyferbyn â meincnodau pendant;        
  • Nodi blaenoriaethau ar gyfer eu datblygu, a gwella cynllunio cyfundrefnol;
  • Hysbysu trafodaeth am arferion;
  • Defnyddio safonau cyffredin wrth weithio mewn partneriaeth;
  • Darparu tystiolaeth ar gyfer safonau ansawdd cenedlaethol, megis Buddsoddwyr mewn Pobl a Matrix;
  • Gwella gofal cwsmeriaid.                                        

Mae’r buddion i weithwyr yn cynnwys:

  • Swydd-ddisgrifiadau a lefelau cyfrifoldeb sydd wedi’u diffinio’n bendant;
  • Meincnod i fesur eich sgiliau eich hun gyferbyn â safonau a gydnabyddir yn genedlaethol;
  • Canllawiau ar arferion gorau;                                              
  • Arfarniadau sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo’u gwir lefelau o sgiliau a hyfedredd;  
  • Nodi bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau;
  • Hyfforddiant i ddiwallu anghenion yr unigolyn;
  • Anogaeth i ennill sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gwell rhagolygon gwaith;
  • Y gallu i ddefnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i ennill cymwysterau cydnabyddedig;
  • Ymgymryd ag asesiad yn y gwaith, nad yw’n golygu amser helaeth i ffwrdd ar gyrsiau;  
  • Boddhad swydd, a ddaw o hyder yn eich safonau perfformiad y chi’ch hun. 

Lawrlwythwch y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gweithio gyda Rhieni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a fyddech cystal â chysylltu â lucy.akhtar@childreninwales.org.uk

 

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Safonau Galwedigaethol  ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence