Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Meysydd Gwaith
    Eiriolaeth
    Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
    Bwlio
    Atal Damweiniau Plant
    Tlodi Plant
    Hawliau Plant
    Anabledd
    Blynyddoedd Cynnar
    Llythrennedd Emosiynol
    Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
    Cynadleddau Grwp Teuluoedd
    Gwaith Rhyngwladol
    Plant sy’n Derbyn Gofal
    Cyfranogaeth
    » Magu Plant
    Ymchwil
    Diogelu Plant
    Y Sector Gwirfoddol
    Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith » Magu Plant
Rhianta

father and sonY mae’r adran hon yn amlinellu’r gwaith y mae Plant yng Nghymru yn ei wneud yn gysylltiedig â Rhianta.

Y mae rhianta yn weithgaredd a wneir gan y sawl sy’n magu plant. Y mae hyn yn cynnwys mamau a thadau, gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol, llysrieni, a theidiau a neiniau. Y mae awdurdodau lleol hefyd yn gweithredu fel rhieni corfforaethol i blant a phobl ifanc dan eu gofal.  Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio ar lawer o lefelau i ddatblygu cefnogaeth i rieni yng Nghymru.  Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill i wella’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd ar gael i rieni.

Yr ydym yn cynnull tri fforwm amlasiantaethol cenedlaethol:

  • Fforwm Magu Plant/Parenting Forum – sydd ar hyn o bryd yn cynnwys y sawl sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd yng Nghymru, gan rannu arbenigedd ac arferion da, lledaenu gwybodaeth berthnasol a hyfforddiant.  Swyddog Datblygu Rhianta sy’n cynnull y fforwm.
  • Rhwydwaith Cydgysylltwyr Rhianta Awdurdodau Lleol – y mae’r Rhwydwaith hwn yn rhoi cyfle i’r sawl sydd â rôl cydgysylltu ar gyfer rhianta yn eu hawdurdod lleol i gyfarfod a rhannu profiadau, arferion, gofidiau ac atebion.  Y mae’r Rhwydwaith yn cydategu Fforwm Magu Plant ond y mae’n benodol ar gyfer Cydgysylltwyr yn hytrach na gweithwyr proffesiynol sy’n darparu cefnogaeth gyda rhianta yn fwy cyffredinol.   
  • Tadolaeth Cymru – sy’n hyrwyddo ac yn rhannu arferion da yn y maes sy’n llawn her o ymgysylltu â thadau.  Y mae’n cynnwys y sawl sydd naill ai’n gweithio ar hyn o bryd gyda thadau neu sy’n ystyried gwneud.  Swyddog Datblygu Tadolaeth sy’n cynnull y fforwm. 

Fe ddylai ymholiadau sy’n ymwneud â gwaith rhianta generig, Fforwm Magu Plant a Rhwydwaith y Cydgysylltwyr Rhianta gael eu cyfeirio at: Lucy Akhtar, Swyddog Datblygu Rhianta, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: lucy.akhtar@childreninwales.org.uk.  Fe ddylai ymholiadau sy’n ymwneud yn benodol â thadau a Tadolaeth Cymru gael eu cyfeirio at: Tony Ivens, Swyddog Datblygu Tadolaeth, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: tony.ivens@chilsreninwales.org.uk.

Yr ydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddi yn gysylltiedig â rhianta.  Fe ellir canfod manylion am y rhain yn yr adrannau Digwyddiadau a Hyfforddiant o’r wefan hon.  Fe ellir canfod y newyddion diweddaraf yn ymwneud â rhianta yn yr adran Newyddion ac fe ellir canfod manylion datblygiadau polisi yn yr adran Polisi.  Drwy ddethol yr hidlydd Teuluoedd a Rhianta ar yr ochr dde, fe allwch bori am ystod o ddogfennau polisi ar y pwnc hwn.  Fe ellir lawrlwytho fersiynau PDF o holl gyhoeddiadau Plant yng Nghymru ynglŷn â rhianta oddi ar yr adran Cyhoeddiadau.  

I fwyafrif o blant, y cartref teuluol yw ble y byddant yn gwireddu llawer o’r hawliau a amlinellir yng Nghytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, UNCRC.  Y mae gan rieni yn amlwg rôl ganolog fel gwarcheidwaid ac eiriolwyr hawliau plant, gyda chyfrifoldeb ar y wladwriaeth i weithredu fel gwarantwr terfynol.  Y mae Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei hun yn cydnabod rôl allweddol rhieni – y mae Erthygl 18 yn ymgorffori hawliau rhieni i dderbyn cefnogaeth, ac y mae’n eu nodi hwynt fel y bobl sydd â phennaf gyfrifoldeb am benderfyniadau yn ymwneud â’u plant.

Fforwm Magu Plant

Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau

Gwybodaeth i Rieni

Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru

Bod yn daid a nain yng Nghymru

Cyrraedd y nod i deuluoedd? Cynhadledd Wythnos Rhianta 2008 

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313