Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Adnoddau
  • Rhwydwaith Cydgysylltwyr Rhianta
  • Fforwm Magu Plant
  • Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau
  • Gwybodaeth i Rieni
  • Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru
  • Bod yn daid a nain yng Nghymru
    • Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor ar Fod yn Daid a Nain

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor ar Fod yn Daid a Nain
Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor ar Fod yn Daid a Nain

Cyflwynwyd gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awst 2006.

CRYNODEB O’R ARGYMHELLION   
  1. Fe ddylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fabwysiadu ymagweddiad tuag at fod yn daid a nain sydd mor gynhwysol â phosibl, sy’n wirioneddol ganolog ar y plentyn ac ar y teulu, sy’n gwella’r profiad o fod yn daid a nain i’r plant ac i’r taid a’r nain yn ogystal, ac sy’n cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y gall teidiau a neiniau ei wneud i’w plant ac i’w hwyrion.
  2. Fe ddylid cynnal adolygiad llenyddiaeth i ganfod pa ddata ymchwil sydd ar gael sy’n ymwneud â bod yn daid a nain yn gyffredinol ac yng Nghymru yn neilltuol.  Fe ddylid wedyn wneud penderfyniadau ar unrhyw ragor o ymchwil y gellid fod ei angen.
  3. Wrth lunio cynigion ar gyfer yr ymchwil hwn, fe ddylid ystyried y canlynol;  
  4. Yr angen am ragor o ddata am berthnasau o fewn teuluoedd a chysylltiad rhwng y cenedlaethau, gan gynnwys data demograffig sy’n benodol i Gymru;
  5. Profiadau teidiau a neiniau eu hunain a’r hyn y maent yn ei ddweud yw eu hanghenion cymorth (y mae angen i hyn gynnwys teidiau a neiniau hŷn ac iau, fel ei gilydd);.    
  6. Profiad ac anghenion "cenhedlaeth y colyn" fondigrybwyll o bobl  rhwng 50 mlwydd oed ac ymddeoliad sy’n cyfuno gwaith a rolau gofal;
  7. Y canfyddiadau a’r profiad sydd gan blant a phobl ifanc o’u teidiau a neiniau.  
  8. Fe ddylid rhoi ystyriaeth i faterion cydraddoldeb mewn pob ymchwil a gweithred arfaethedig yn gysylltiedig â bod yn daid a nain yng Nghymru.  Fe argymhellir yn benodol fod ymchwil yn cael ei wneud ar fod yn daid a nain a’r rôl sydd gan y teulu estynedig o fewn cymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, i lenwi bwlch amlwg yn y wybodaeth gyfredol.
  9. Fe ddylid cynnal arolwg yng Nghymru o’r defnydd a wneir gan awdurdodau lleol o ofal gan garennydd / teulu a chyfeillion, ac o’r trefniadau sy’n bodoli i ddarparu cymorth ariannol.  Fe ddylai hyn gynnwys enghreifftiau o arferion da.            
  10. Fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i roi gwedd gliriach ar y defnydd o ofal gan garennydd / teulu a chyfeillion, i sicrhau y cydymffurfir â’r  gofynion statudol ac i sicrhau cydraddoldeb o ran triniaeth.  Fe ddylent hefyd gasglu a lledaenu enghreifftiau o arferion da.
  11. Fe ddylid rhoi ystyriaeth i annog cyflogwyr i weithredu trefniadau mwy hyblyg o ran amser ymaith o’r gwaith i ofalu am bobl sy’n ddibynnol arnynt, i gynorthwyo teidiau a neiniau a gofalwyr eraill sy’n deulu a chyfeillion. 
  12. Fe ddylai Llywodraeth y Cynulliad ariannu paratoad o fersiwn Cymru o’r canllaw "Second Time Around" gan y Grŵp Hawliau’r Teulu, os yn bosibl yn ystod blwyddyn ariannol 2007-08.
  13. Fe ddylai Cynadleddau Grŵp i Deuluoedd fod ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan ddefnyddio’r Pecyn Cymorth a gynhyrchwyd gan y Grŵp Hawliau’r Teulu. 
  14. Fe ddylai fod yna gydnabyddiaeth barhaus o fod yn daid a nain yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn o eiddo Llywodraeth y Cynulliad, fel na chaiff y materion hyn eu colli.

Er mwyn darllen copi llawn o Adroddiad y Gweithgor ar Fod yn Daid a Nain, cliciwch ar yr adroddiad ar yr ochr dde. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Tony Ivens, Ffôn: 029 2034 2434.

Adnoddau Cysylltiol

:Bod yn daid a nain yng Nghymru
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor ar Fod yn Daid a Nain

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence