Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Gwaith Rhyngwladol
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
    Cyrraedd y Nod i Deuluoedd?
    Fforwm Magu Plant
    Tadolaeth Cymru - Gwaith gyda Thadau
    Gwybodaeth i Rieni
    Safonau Galwedigaethol ar gyfer Gwaith gyda Rhieni a Dysgu Teulu yng Nghymru
    » Bod yn daid a nain yng Nghymru
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Magu Plant »Bod yn daid a nain yng Nghymru
Bod yn daid a nain yng Nghymru
Fe wnaeth Cynllun Gweithredu Rhianta Cymru gydnabod bod teidiau a neiniau wedi chwarae rhan arwyddocaol erioed gyda chymorth rhieni i fagu’u plant.

Fel rhan o’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn, fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru gomisiynu Sefydliad Beth Johnson i gynhyrchu adroddiad sy’n crynhoi’n gwybodaeth gyfredol am deidiau a neiniau. Fodd bynnag, nid oes yna erioed astudiaeth helaeth o deidiau a neiniau wedi bod yng Nghymru, ac fe orfodwyd Sefydliad Beth Johnson i edrych ar astudiaethau ehangach o’r DU yn ei chyfanrwydd.

Gan ddyfynnu o amrywiol astudiaethau ymchwil, fe ganfuant mai, ymysg pethau eraill: -

  • Y mae gan deidiau a neiniau ran allweddol i chwarae fel ffynhonnell gofal plant, yn enwedig gan rieni sy’n gweithio.  Yr oedd tua 60% o deidiau a neiniau yn gofalu am ŵyr neu wyres o dan 15 oed yn ystod y dydd, ac fe wnaeth mwy na hanner (54%) adrodd eu bod wedi gwarchod eu hwyrion.  Y mae teidiau a neiniau yn darparu cefnogaeth ymarferol ar adegau o gynnwrf, megis babanod newydd yn cyrraedd, symud tŷ a gwaeledd rhiant. 
  • Fe roes 64% o deidiau a neiniau arian i’w hwyrion.  Fodd bynnag,  yr oedd cymorth ariannol yn amodol ar amrywiant mawr, yn unol â gwerthoedd a lefel incwm y taid neu’r nain, ac yn unol ag amgylchiadau’r plentyn.  Yr oedd teidiau a neiniau yn prynu "moethbethau", ond yr oedd rhai yn prynu pethau angenrheidiol gan gynnwys bwyd a dillad neu geisio â gwneud iawn am wahanol safonau byw rhwng cefndyr a chyfnitheroedd. 
  • Yr oedd 90% o deidiau a neiniau yn cytuno gyda’r gosodiad bod "bod yn daid a nain yn agwedd fuddiol iawn o’m bywyd", gyda 64% yn cytuno’n gryf.  Fe wnaethant hefyd ganfod bod 91% o deidiau a neiniau a oedd wedi bod mewn cysylltiad â’u hŵyr neu’u hwyres yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi adrodd eu bod yn teimlo "yn agos" atynt, gyda 68% yn teimlo’n "agos iawn".  
  • Fe wnaeth bron dri chwarter (74%) o rieni gytuno bod ar deuluoedd sydd â mamau sy’n gweithio angen cymorth taid a nain.  Yr oedd ychydig dros hanner (51%) o’r holl ymatebwyr yn teimlo nad oedd rôl teidiau a neiniau yn cael ei gwerthfawrogi yn iawn, ac fe deimlai 41% o’r holl ymatebwyr nad oedd rhieni yn gwerthfawrogi cymorth teidiau a neiniau.
  • Tra bod gan deidiau a neiniau heddiw lai o wyrion, y mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o bobl sydd wedi dod yn deidiau a neiniau ac y maent yn deidiau a neiniau yn hwy nag erioed o’r blaen.   
  • "Cenhedlaeth Y Colyn".  Fe fathwyd y term cenhedlaeth "colyn" gan Mooney et al (2002) ar gyfer pobl rhwng 50 mlwydd oed ac ymddeoliad sy’n cyfuno gwaith a rolau gofal.  Y mae dwy ran o dair yn y garfan oedran hon mewn gwaith cyflogedig, tra bod gan chwech o bob deg o bobl 50 mlwydd oed rieni sy’n fyw ac y mae gan draean wyrion.  Mewn arolwg o staff awdurdodau lleol, fe ganfu’r ymchwilwyr fod gan eu hanner rywfaint o gyfrifoldeb yn gofalu.  Yr oedd un o bob tri yn gofalu am  gyfaill neu berthynas oedrannus, yr oedd un o bob chwech yn darparu gofal am ŵyr neu wyres ac yr oedd un o bob deg yn gwneud y ddau beth.  Yr oedd bron cymaint o ddynion â merched yn dweud eu bod yn darparu gofal, ond yr oedd y gofal a roddwyd gan ferched yn fwy dwys.

Ym mis Rhagfyr 2005, fe sefydlodd y Cynulliad weithgor i edrych ar y canfyddiadau o fewn cyd-destun y Cynllun Gweithredu Rhianta, ac i wneud argymhellion priodol.

Fe gynrychiolwyd Plant yng Nghymru ar y grŵp hwn gan Tony Ivens, Swyddog Datblygu Tadolaeth, Ffôn: 029 2034 2434.

Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor ar Fod yn Daid a Nain
Adnoddau Cysylltiol
:Grandparenting in Wales
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313