"Magu plant iach yw gwaith pwysicaf y diwylliant. Os oes gennych chi blant, magu plant yw’ch gwaith pwysicaf. Fe fydd yr hyn yr ydych yn ei wneud pan fo’ch plant yn fach yn cyfrannu at wewyr neu orfoledd gweddill eich bywyd. Ychydig iawn o waith arall sydd â’r fath effeithiau pellgyrhaeddol, gan ddylanwadu ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol fel ei gilydd." Y Dr. Louise Hart
Croeso i wefan Gwybodaeth Plant yng Nghymru ar gyfer Rhieni. Y mae’r wefan hon yn darparu dolenni cyswllt i amrywiaeth eang o wybodaeth a ffynonellau cyngor ar gyfer mamau, tadau a gofalwyr. Y mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:
Gwasanaethau Gwybodaeth Plant
Prosiectau Magu Plant Y mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am wasanaethau magu plant sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth neu gwnsela ynglyn â magu plant a pherthynas deuluol, gan gynnwys priodas a phartneriaethau teuluol eraill i oedolion.
Fforwm Magu Plant
Tadolaeth Cymru