Yn ychwanegol at y gwaith ynglyn ag iechyd plant sy’n derbyn gofal a chydlynu’r Grwp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan, y mae Plant yng Nghymru yn gwneud rhychwant o weithiau eraill yn gysylltiedig ag anghenion plant sy’n derbyn gofal. Y mae hyn yn cynnwys:
Cadw Golwg ar yr UNCRC (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn)
Wrth baratoi ar gyfer sesiwn Monitro yr UNCRC yn 2007, fe wnaeth Plant yng Nghymru gwblhau’r adran Derbyn Gofal yn adroddiad amgen y corff anllywodraethol. Y mae mwy o wybodaeth am gadw golwg ar yr UNCRC ac am adroddiad amgen y corff anllywodraethol ar gael yn adranConfensiwn y Cenhedloedd Unedig.
Gweithdai ymarferwyr
Anelir y gweithdai hyn ar ymarferwyr Gwasanaethau Plant, Gwarcheidwaid Plant a gweithwyr Mabwysiadu a Maethu
Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal
Y mae Plant yng Nghymru yn cefnogi gwaith sy’n ymwneud ag addysg plant sy’n derbyn gofal. Y mae hyn yn cynnwys cynnal y gynhadledd "O Ofal i Brifysgol" ym mis Gorffennaf, 2005, ble y lansiwyd ymchwil newydd ynglyn ag addysg uwch ymadawyr â gofal. Y mae mwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad i’r wasg am y gynhadledd.