Mae Plant yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n cefnogi prosiectau i helpu pobl ifanc fregus i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eu dyfodol. Caiff prosiect Llwybrau Bywyd, a ariennir gan Nokia Make a Connection, ei beilotio hyd fis Rhagfyr 2008. Mae’n cyfateb i brosiect llwyddiannus Life Routes yn Lloegr.
Caiff sgiliau bywyd eu datblygu fel arfer fel rhan o fagwrfa iach. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a gwneud penderfyniadau yn ogystal â medru gweithio fel rhan o dîm a chymryd cyfrifoldeb dros eich gweithredoedd eich hun. Fodd bynnag, gall plentyndod anodd lesteirio ar y modd y caiff y sgiliau hyn eu datblygu ac effeithio’n ddifrifol ar gyfle person ifanc o gyrraedd eu potensial llawn. Mae Llwybrau Bywyd yn galluogi pobl ifanc yn yr ystod oedran 11 i 19 i gynllunio a rhedeg eu gweithgareddau eu hunain ac wrth wneud hynny gofnodi a gwireddu eu dysgu eu hunain.
Rôl y Swyddog Datblygu Llwybrau Bywyd yw cefnogi a chynorthwyo ymarferwyr i gynllunio a datblygu prosiect Llwybrau Bywyd yn eu gosodiadau. I gael mwy o wybodaeth am Llwybrau Bywyd a sut y medrid ei ddatblygu gyda’ch grŵp, cysylltwch ag Ed Janes: Ed.Janes@childreninwales.org.uk