Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio i ddatblygu rhagor ar y Model Cynadledda Grwp Teuluoedd yng Nghymru drwy:
Mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith Cyfarfodydd Grwp Teuluoedd Cymru Gyfan. Dyma’r rhwydwaith ar gyfer asiantaethau sy’n gysylltiedig â darparu’r cynadleddau/cyfarfodydd grwp teuluoedd yng Nghymru ac ar gyfer cyrff ac unigolion sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo arferion da ac i ddatblygu rhagor ar y model.
Cynnal gwefan y Rhwydwaith Cyfarfodydd Grwp Teuluoedd Cymru Gyfan, sy’n amlinellu’r defnydd o Gynadleddau/Gyfarfodydd Grwp Teuluoedd yng Nghymru, gan gynnwys manylion a rhifau cysylltu ar gyfer pob prosiect cyfredol, ffynonellau cyllid a meini prawf cyfeirio. Fe amlinellir yr wybodaeth yn gysylltiedig â phob un o’r 22 o ardaloedd yr Awdurdodau Lleol.
Am fwy o wybodaeth, cyswllt a:
Karen Rees (Cadeirydd): karen.rees@barnardos.org.uk Tim Fisher (Is-gadeirydd): tim.fisher@trosgynnal.org.uk
Taflenni NewyddionY mae’r Rhwydwaith Cyfarfodydd Grwp Teuluoedd Cymru Gyfanyn cynhyrchu taflenni newyddion rheolaidd sy’n darparu manylion ynglyn â’i waith a datblygiadau eraill
Adnoddau