Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio i ddatblygu rhagor ar y Model Cynadledda Grwp Teuluoedd yng Nghymru drwy:
Mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith Cyfarfodydd Grwp Teuluoedd Cymru Gyfan. Dyma’r rhwydwaith ar gyfer asiantaethau sy’n gysylltiedig â darparu’r cynadleddau/cyfarfodydd grwp teuluoedd yng Nghymru ac ar gyfer cyrff ac unigolion sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo arferion da ac i ddatblygu rhagor ar y model.
Cynnal gwefan y Rhwydwaith Cyfarfodydd Grwp Teuluoedd Cymru Gyfan, sy’n amlinellu’r defnydd o Gynadleddau/Gyfarfodydd Grwp Teuluoedd yng Nghymru, gan gynnwys manylion a rhifau cysylltu ar gyfer pob prosiect cyfredol, ffynonellau cyllid a meini prawf cyfeirio. Fe amlinellir yr wybodaeth yn gysylltiedig â phob un o’r 22 o ardaloedd yr Awdurdodau Lleol.
Am fwy o wybodaeth, cyswllt a:
Peter Salmon (Cadeirydd): salmon.p1@sky.comKaren Rees (Is-gadeirydd): karen.rees@barnardos.org.ukGwenan Gryfudd (Ysgrifennydd): gwenan@cartrefbontnewydd.org
Am newidiadau i'r tudalen we, cysylltwch â: Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434
Cynhadledd
Mae'r Rhwydwaith yn cynnal cynhadledd ar 10 Mehefin 2009 yng Nghaerdydd. Cliciwch yma ar gyfer mwy o wybodaeth.
Taflenni NewyddionY mae’r Rhwydwaith Cyfarfodydd Grwp Teuluoedd Cymru Gyfanyn cynhyrchu taflenni newyddion rheolaidd sy’n darparu manylion ynglyn â’i waith a datblygiadau eraillLawrlwythwch y taflen Newyddion ar gyfer Gwanwyn 2009