19 Hydref 2011 - Trafododd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnig yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar argaeledd yr amddiffyniad "cerydd cyfreithlon" am drosedd ymosod ar blentyn. Pasiwyd y cynnig gan 24 pleidlais i 15. Yn y drafodaeth ailadroddodd y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud cosbi plant a phobl ifanc yn gorfforol yn annerbyniol drwy hyrwyddo dulliau amgen positif. Fodd bynnag esboniodd "y byddai’n rhaid wrth lawer iawn o waith paratoi i ar gyfer deddfwriaeth o’r math yma, a ni fyddai’n bosibl i ni gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn."
Mai 2011 - Yn dilyn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth pwerau deddfwriaethol newydd y Cynulliad i rym. Cytunir yn eang bod gan Gymru’r pwerau deddfwriaethol i roi terfyn ar daro erbyn hyn.
Mawrth 2011 – Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc 2011 yn ennill y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r Mesur yn sefydlu UNCRC yn y gyfraith ac yn gosod dyletswydd ar weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i hawliau plant a phobl ifanc fel y’u diffinnir yn y Confensiwn
Mawrth 2011 - Cymru’n pleidleisio Ie mewn refferendwm ar bwerau deddfwriaethol ehangach
Tachwedd 2009 - Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Gynllun Gweithredu mewn ymateb i sylwadau casgliadol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig Getting it Right. Blaenoriaeth 10 y Cynllun yw "gweithio i wneud cosbi plant a phobl ifanc yn gorfforol yn anghyfreithlon ymhob sefyllfa"
Ym Mehefin 2009 - cymeradwyodd Gweinidogion Cymru Ddatganiad Ymgyrch Children are Unbeatable. Nododd hwn fod, "Mae’n bolisi hir-sefydledig gennym wrthwynebu cosb gorfforol a hyrwyddo dulliau disgyblu positif heb fod yn dreisgar. Derbyniwn argymhellion Pwyllgor y CU y dylai amddiffyniad cosb resymol gael ei ddileu er mwyn i blant a phobl ifanc gael mwynhau’r un lefel o amddiffyniad dan y gyfraith ag oedolion."
Hydref 2008 - argymhellodd sylwadau casgliadol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig at Hawliau’r Plentyn fod Parti Gwladwriaeth y DU "Er bod y Pwyllgor yn nodi diwygiadau i ddeddfwriaeth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a gogledd Iwerddon sy’n cyfyngu defnydd amddiffyniad "cerydd rhesymol", mae’n bryderus nad yw’r amddiffyniad hwn wedi cael ei ddileu. Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wahardd pob cosb gorfforol yn y cartref, ond yn sylwi o dan delerau datganoli nad yw’n bosibl i’r Cynulliad ddeddfu’r ddeddfwriaeth angenrheidiol."
Ebrill 2008 - Lansiad y Pecyn Cymorth Help wrth Law
14 Chwefror 2007, Digwyddiad Y Senedd, Bae Caerdydd - fe gynhaliwyd digwyddiad yn Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a fynychwyd gan Jane Hutt, AC, y Gweinidog dros Blant. Fe siaradodd Peter Newell, Cadeirydd Cynghrair ‘Sdim Curo Plant! & Dileu Cosbi Plant yn Gorfforol, am Astudiaeth y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn Erbyn Plant. Fe siaradodd Sam Clutton, Barnardo's Cymru, am yr adroddiad ar y prosiect Help wrth Law.
Tachwedd 2006 - Help wrth Law: Hyrwyddo Dulliau Eraill Heblaw Taro.Yn ddiweddar, fe wnaeth y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt, lansio’r adroddiad terfynol ar "Help wrth Law". Y mae’r adroddiad yn darparu arfarniad o raglen gweithgareddau sy’n hyrwyddo dulliau eraill heblaw taro plant.
Fe wnaeth ‘Sdim Curo Plant! Cymru gomisiynu rhaglen ddigwyddiadau yng Ngorllewin Llansawel i werthuso’r hyn a allai newid agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a sut i ddarparu cyngor a chefnogaeth i rieni a gofalwyr i ddarparu disgyblaeth gadarnhaol, ddi-drais.
Fe ddywedodd Jane Hutt: "Fe wnaed argraff dda arnaf gan y ffordd y mae’r Wythnos Help wrth Law wedi ymgysylltu â’r holl gymuned yma yn Llansawel – rhieni, plant a gweithwyr proffesiynol. Yr wyf yn gobeithio y byddwch chi’n gallu cadw’r momentwm hwnnw i fynd. Yr oedd gennyf ddiddordeb neilltuol mewn clywed bod rhieni yn rhoi llawer iawn o bwysigrwydd ar gael gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor oddi wrth ffynonellau lleol, megis eu hymwelwyr iechyd."
Hyrwyddo dulliau gwahanol i daro plant Fe wnaeth y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt, lansio ymgyrch sy’n wythnos o hyd ar y 15 o Fai, 2006 i hyrwyddo dulliau gwahanol i daro plant. Nod y digwyddiad, a drefnir gan `Sdim Curo Plant!/ Children are Unbeatable!, yw dod â rhieni ynghyd i rannu’u profiadau ac i ddysgu ffyrdd newydd o annog ymddygiad da.
Ionawr 2006 - Adroddiad Grwp Monitro CCUHP Cymru 2006 - Cosbi Corfforol O 'Cywiro'r cam: reality hawliau plant yng Nghymru' (Achub y Plant, 2006)
Mai 2004 – Dadl Cyfarfod Llawn yn y Cynulliad ar y Mesur Plant.
Chwefror 2004 – Y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi 'Gweithredu’r Hawliau'.
Ionawr 2004 – ymweliad canfod ffeithiau i Sweden gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad o Gymru.
Ionawr 14 2004 – Dadl ynglyn â Phapur Gwyrdd y Plant, Gwelliant 5: Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio cyfreithiol ers mis Hydref, 2003 a hi yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i wneud safiad egwyddorol ar y mater.
"Y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn edifar bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i gynnal yr amddiffyniad o gosbi rhesymol ac nad ydyw wedi cymeryd unrhyw gam sylweddol tuag at wahardd cosbi plant yn gorfforol yn y teulu."
(O blaid 41, Ymatal 3, Yn Erbyn 9)
Hydref 2002 - Datganiad Cabinet gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn erbyn cosbi plant yn gorfforol ac o blaid diwygio cyfreithiol a chefnogaeth i rieni. LlCC (WAG) wedyn yn gwneud sylwadau i San Steffan, drwy gyfrwng llythyrau at Weinidogion, ymateb i ymgynghoriad "Mae Pob Plentyn yn Bwysig", a sylwadau yn ystod hynt y Mesur Plant drwy’r Senedd yn 2004.
Chwefror 2002 – Rheoliadau Gwarchod Plant Cymru a oedd yn datgan na ddylai gwarchodwyr plant daro plant yn eu gofal. Ionawr 2002 – Dadl fer yn y Cynulliad Cenedlaethol, "Y mae taro pobl yn anghywir ac y mae plant yn bobl hefyd", a ddewiswyd gan Christine Chapman, AC.