Mae’r ymgyrch hon sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Gyfunol yn anelu at gynorthwyo cymdeithas i symud ymaith o drais i gymdeithas sy’n cydnabod bod gan blant yr un hawliau dynol ag oedolion, yn cynnwys yr hawl gyfreithiol i beidio â chael eu taro.
NID diben newid cyfraith y Deyrnas Gyfunol i roi AMDDIFFYNIAD CYFARTAL i blant yw erlyn rhieni ond anfon neges eglur yn yr unfed ganrif ar hugain nad yw’n fwy derbyniol i daro plentyn nag yw hi i daro unrhyw un arall.
Confensiwn Y Cenhedloedd Unedig Ar Hawliau’r Plentyn Y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a lofnodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn 1991, yn cynnal hawliau plant i gael urddas dynol a pharch ac i’w diogelu rhag pob ffurf o drais corfforol neu feddyliol.Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cefnogaeth gref i gynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ac yn cefnogi amcanion ‘Sdim Curo Plant!
Y mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn hallt am beidio â gweithredu i roi amddiffyniad cyfreithiol i blant yn y cartref ac am beidio â defnyddio addysg gyhoeddus i hyrwyddo magu plant mewn modd cadarnhaol. Y mae 16 o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a Sweden, wedi cymeryd y cam hwn.
Mehefin - Hydref 2006 - Y mae Aelodau Seneddol ac Arglwyddi yn San Steffan yn mynd yn gynyddol bryderus y dylai fod yna gyfle i gael pleidlais ar amddiffyniad cyfartal i blant ym mlynyddoedd cynnar y Senedd hon. Yn sesiwn ddiwethaf y Senedd, fe lofnododd 174 o ASau o bob plaid gynnig yn Nhŷ’r Cyffredin ar hawl dynol plant i amddiffyniad cyfartal rhag ymosodiad, a noddwyd gan Greg Pope, AS. Y mae hyn yn fwy na dwbl y gefnogaeth seneddol a ddangoswyd dros gynigion cyffelyb yn y gorffennol (y gorau blaenorol: 83 o lofnodwyr yn 2004).