Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
    'Sdim Curo Plant!
    Datblygiadau yng Nghymru
    Hawliau Plant – Hawliau Dynol
    Ymchwil i Effeithiau Cosb Gorfforol ar Blant
    » Cynnydd Tuag at Ewrop sy’n Rhydd o Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Prosiect Llwybrau Bywyd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol »Cynnydd Tuag at Ewrop sy’n Rhydd o Gosbi Corfforol
Cynnydd Tuag at Ewrop sy’n Rhydd o Gosbi Corfforol
Diolch i argymhellion y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn a pheirianweithiau hawliau dynol cryf Cyngor Ewrop, y mae cynnydd ar wahardd pob cosb gorfforol ar blant ledled Ewrop. Y mae astudiaeth Ysgrifennydd Cyffredinol presennol y Cenhedloedd Unedig ar Drais yn Erbyn Plant yn rhoi cyd-destun addas ar gyfer cwblhau’r broses hon ym mhob un o’r 46 aelod-wladwriaeth.

Argymhelliad y Cynulliad Seneddol
Ar 24 Mehefin 2004, fe wnaeth Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop dderbyn argymhelliad manwl, gyda chefnogaeth lethol. Y mae hyn yn nodi’r safonau hawliau dynol sefydledig yn y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a’r Siarter Cymdeithasol Ewropeaidd sy’n galw am wahardd pob cosb gorfforol: "Y mae’r Cynulliad yn ystyried fod unrhyw gosb gorfforol ar blant yn amharu ar eu hawliau sylfaenol i urddas dynol a chyfanrwydd corfforol. Y mae’r ffaith fod cosb gorfforol o’r fath yn dal yn gyfreithlon mewn rhai aelod-wladwriaethau yn amharu ar eu hawl sylfaenol i gael yr un amddiffyniad yn y gyfraith ag oedolyn.  Y mae cymdeithas Ewropeaidd yn gwahardd taro bodau dynol ac y mae plant yn fodau dynol.  Y mae’n rhaid diweddu’r arferiad cymdeithasol a chyfreithiol o gosbi plant yn gyfreithiol". (Argymhelliad 166/2004)

Ymateb Pwyllgor y Gweinidogion
Ym mis Ebrill 2005, fe ymatebodd Pwyllgor y Gweinidogion, awdurdod gweithredol Cyngor Ewrop sydd â 46 o wledydd yn aelodau, i argymhelliad y Cynulliad Seneddol i wneud Ewrop yn barth sy’n rhydd o gosb gorfforol yn erbyn plant. Cytunodd gyda’r Cynulliad ar yr angen i ddechrau ymgyrch gydlynol a chydunol ym mhob aelod-wladwriaeth i ddileu pob trais yn erbyn plant a nododd fod y Pwyllgor Ewropeaidd ar Hawliau Cymdeithasol wedi dod i’r casgliad fod y Siarter Gymdeithasol Ewropeaidd yn galw am wahardd mewn deddfwriaeth unrhyw fath o drais yn erbyn plant.

Cytunodd gyda’r Cynulliad ar yr angen i ddechrau ymgyrch gydlynol a chydunol ym mhob aelod-wladwriaeth i ddileu pob trais yn erbyn plant a nododd fod y Pwyllgor Ewropeaidd ar Hawliau Cymdeithasol wedi dod i’r casgliad fod y Siarter Gymdeithasol Ewropeaidd yn galw am wahardd mewn deddfwriaeth unrhyw fath o drais yn erbyn plant.

Dyfarniad Pwyllgor y Gweinidogion
Fel a ddywedwyd yn The Guardian, ym mis Mehefin 2005 fe gyflwynodd Cyngor Ewrop ddyfarniad ar hawliau dynol plant a fydd yn cynyddu pwysau ar lywodraeth Prydain i gyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd taro yn y cartref.  Fe wnaeth penderfyniad gan Bwyllgor Hawliau Dynol Ewropeaidd ategu cwynion yn erbyn cosb gorfforol yn yr Iwerddon, Gwlad Groeg a Gwlad Belg, nad oedd gan blant yn y tair gwlad hyn amddiffyniad digonol rhag ymosodiad gan rieni a all ddefnyddio’r amddiffyniad o ‘gosb resymol’ i gyfiawnhau cosb gorfforol. Y mae’r pwyllgor eisoes wedi beirniadu naw gwlad Ewropeaidd, gan gynnwys Ffrainc a Sbaen am fethiant i wahardd cosb gorfforol.

Fe gadarnhaodd y Pwyllgor ddyfarniadau llysoedd goruchaf

yr Eidal a Phortiwgal a oedd yn gwahardd cosbi corfforol, gan gynyddu’r nifer o wledydd i gyflwyno gwaharddiad i 16 o’r 46 aelod-wladwriaeth.

Fe ddywedodd Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru a llywydd Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsbobl Plant:

"Y mae’r penderfyniadau hyn yn gam mawr tuag at gyflawni hawl holl blant Ewrop i gael eu diogelu’n gyfartal rhag cael eu taro.  Y maent yn tanlinellu goblygiadau hawliau dynol gwladwriaethau yn y rhanbarth - yn cynnwys y Deyrnas Gyfunol - i wahardd pob cosb gorfforol yn y teulu."

Plant a chosbi corfforol: "Yr hawl i beidio â chael eich taro, sydd hefyd yn hawl gan blant."
Fe wnaeth Comisiynydd Iawnderau Dynol Cyngor Ewrop, Thomas Hammarberg, gyhoeddi papur materion ynglŷn â chosbi corfforol a phlant ym mis Mehefin, 2006. Darllenwch y papur materion llawn

Fe wnaeth Y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn orffen ei 42fed sesiwn ar yr 2 Mehefin, 2006 a derbyn Sylwadaeth Gyffredinol newydd (rhif 8) ynglŷn â hawl y plentyn i gael ei amddiffyn rhag cosbi corfforol a mathau creulon neu ddiraddiol eraill o gosbedigaethau.

Yn dilyn ei ddau Ddiwrnod Trafodaeth Gyffredinol ynglŷn â thrais yn erbyn plant, a gynhaliwyd yn 2000 a 2001, fe benderfynodd y Pwyllgor gyhoeddi cyfres o Sylwadau Cyffredinol yn ymwneud â dileu trais yn erbyn plant, a Sylwadaeth Gyffredinol 8 yw’r un cyntaf ohonynt.

Fe gafodd cynigion i wahardd cosbi corfforol ym Mhrydain eu trechu yn Nhy’r Cyffredin ym mis Tachwedd 2004, er gwrthryfel gan 47 o ASau Llafur.  Cefnogodd y llywodraeth gyfaddawd yn caniatáu i rieni roi "cosb resymol", gyhyd nad oedd yn gadael unrhyw farciau gweladwy.

Dolenni Cysylltiol
Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsmyn dros Blant
Dyma rwydwaith sy’n ceisio annog gweithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn hyd yr eithaf posibl, cefnogi lobïo ar y cyd dros hawliau plant ledled 12 o wledydd Ewrop.
Comisiynydd Plant Cymru
Ymwelwch â gwefan Comisiynydd Plant Cymru
Cyngor Ewrop
Sefydliad gwleidyddol Ewropeaidd sy’n grwpio 46 o wledydd gyda’i gilydd.
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313