Y mae ‘Sdim Curo Plant! Cymru wedi bod yn gysylltiedig â rhoi cyflwyniadau mewn ystod eang o ddigwyddiadau, ac i amrywiaeth o grwpiau. Yr ydym hefyd wedi hyfforddi tua 70 o ymarferwyr yng Nghymru i roi cyflwyniadau, hyfforddiant neu sesiynau i’w cleientydd neu’u grwpiau staff eu hunain.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael cyflwyniad neu hyfforddiant gyda’ch grŵp, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Plant yng Nghymru, Ffôn 029 2034 2434.
Y mae ‘Sdim Curo Plant wedi datblygu ystod o ddeunyddiau y gellir eu defnyddio i amlygu a thrafod y materion sydd ynghlwm wrth yr ymgyrch.
Fe ellir defnyddio’r rhain gydag ystod o grwpiau, ac fe allant ymdrin â chyflwyniadau byr, gweithdai hwy, cyflwyno deunyddiau i mewn i raglenni magu plant, ac yn y blaen.
Fe allwch gyrchu cyflwyniadau a deunyddiau hyfforddi Powerpoint ynglŷn â’r materion hyn drwy ddilyn y cysylltiadau hyn: