Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • 'Sdim Curo Plant!
    ‘Sdim Curo Plant, Ffurflen Ymaelodi
    Digwyddiadau a Chyflwyniadau
    » Yr hyn y mae’r Ymgyrch wedi’i gyflawni hyd yn hyn
    Magu Plant yng Nghymru
  • Datblygiadau yng Nghymru
  • Hawliau Plant – Hawliau Dynol
  • Ymchwil i Effeithiau Cosb Gorfforol ar Blant
  • Cynnydd Tuag at Ewrop sy’n Rhydd o Gosbi Corfforol

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol »'Sdim Curo Plant! »Yr hyn y mae’r Ymgyrch wedi’i gyflawni hyd yn hyn
Yr hyn y mae’r Ymgyrch wedi’i gyflawni hyd yn hyn

Gwaith yr Ymgyrch yng Nghymru yw datblygu cefnogaeth ymysg gweithwyr proffesiynol, mudiadau cymunedol, eglwysi, ac ati i greu archiad ar gyfer newid. Yr ydym yn darparu gwybodaeth a chyngor, yr ydym yn darparu hyfforddiant ac yr ydym wedi cynhyrchu 'Ei wneud i Weithio' – sef pecyn cymorth o enghreifftiau ymarferol.

Y mae’r Ymgyrch wedi bod yn gysylltiedig â gwneud cyflwyniadau i wleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn San Steffan. Y mae hefyd wedi trefnu cynadleddau a seminarau ac wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o gosbi corfforol a magu plant yn gadarnhaol.

Y mae’r rhain wedi cynnwys:

  • Ebrill 2008 - Lawnsiad Pecyn Cymorth Help wrth Law
  • Ebrill 2006 - Wythnos Dim Taro yng Nghastell Nedd Port Talbot (gyda Barnardo's, NCH, Rhoi Cymunedau yn Gyntaf a grwp prosiect amlasiantaethol).
  • Llyfryn "Dulliau Amgenach na Tharo" (gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phrosiect Datblygu Magu Plant o eiddo Plant yng Nghymru).
  • Ionawr 2005 – Seminar Partneriaeth Fframwaith Torfaen – "Y mae Taro Pobl yn Anghywir ac y mae Plant yn Bobl Hefyd!" Yr ydym yn awr yn gweithio gyda Thorfaen i gynhyrchu adroddiad am y digwyddiad i annog awdurdodau lleol eraill a chyrff cyhoeddus i’w ailadrodd.
  • Chwefror 2004 – Lansio Arddangosfa ‘Dulliau Amgenach na Tharo’ – Barnardos Parenting Matters, Powys
  • Ionawr 2004 - Ymweliad swyddogol tri diwrnod â Sweden ble y gwnaethom gyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth Sweden. Yr oedd yr ymweliad yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt, Aelodau Seneddol o Gymru, a chynrychiolwyr anllywodraethol.
  • Gorffennaf 2003 - Cynhadledd ‘Dulliau Amgenach na Tharo’ - Magu Plant yn Gadarnhaol Powys
  • Mai & Mehefin 2003 – Cynadleddau yng nghanolbarth a gogledd Cymru, "Ni wnaeth o erioed unrhyw ddrwg i mi", ble yr oedd Mali Nilsson yn disgrifio profiad ymarferol Sweden, ble y mae taro plant wedi’i wahardd ers 1979, a ble y mae hi yn awr yn anghyffredin canfod neb sy’n gefnogol i daro.
  • Mehefin 2002 - "Own Goal" – beth yw’r gosb am daro’ch plant’ – digwyddiad theatrig gan Tai Hafan ar gyfer Theatr Fforwm Agora, Bae Caerdydd.

Ymgyrchu a Chyflwyniadau Gwleidyddol

  • Yr ydym yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynglyn â rhoi diwedd ar gosbi corfforol; er enghraifft, drwy ymateb i ymgynghoriadau - 'Mynd i’r Afael â Chamdrin yn y Cartref', 'Cynllun Gweithredu Magu Plant', a rhoi tystiolaeth i’r ‘Adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed'.
  • Mehefin 2004 yn San Steffan ar gyfer Aelodau Seneddol, gyda Mali Nilsson a Paula Honkanen-Schoberth o’r Almaen.
  • Gorffennaf 2002 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gyda Mali Nilsson o Sweden.  Yr oedd hon yn ffactor sylweddol o ran darbwyllo Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod y rhan gyntaf o’r Deyrnas Gyfunol i gymeryd safiad egwyddorol yn erbyn Cosbi Plant yn Gorfforol,

Adnoddau Cysylltiol
:Help wrth Law Gwerthusiad Crynodeb Gweithredol
:Help wrth Law - Adroddiad (pdf 367k)
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313