Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
    » 'Sdim Curo Plant!
    Datblygiadau yng Nghymru
    Hawliau Plant – Hawliau Dynol
    Ymchwil i Effeithiau Cosb Gorfforol ar Blant
    Cynnydd Tuag at Ewrop sy’n Rhydd o Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Prosiect Llwybrau Bywyd
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc
  • WorldForum 2008

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol »'Sdim Curo Plant!
'Sdim Curo Plant!

Fe lansiwyd ‘Sdim Curo Plant!/Children are Unbeatable! Cymru ('SCP!/CAU! Cymru) ym mis Medi, 2000 i gydgysylltu ac i hyrwyddo’r ymgyrch yng Nghymru. Y mae gan y Grwp Strategaeth gynrychiolwyr o fudiadau Plant yng Nghymru, Achub y Plant, Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Action for Children – Gweithredu dros Blant,, Barnardo's, Cymdeithas Genedlaethol y Gwarchodwyr Plant, y Sefydliad Cenedlaethol dros y Teulu a Magu Plant, a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Cliciwch ar y ddolen gyswllt ar yr ochr dde i ddysgu mwy am yr ymgyrch drwy’r Deyrnas Gyfunol gyfan.

Amcanion y Gynghrair yw:

  • newid y gyfraith fel bod plant a phobl ifanc â’r un amddiffyniad rhag cael eu taro ag sydd gan oedolion
  • ymgyrch addysg gyhoeddus ynglyn â pham nad yw’n iawn taro plant
  • i rieni gael llawer o wybodaeth a chyngor a chefnogaeth ymarferol am ddulliau amgenach na ‘tharo’ a defnyddio ymagweddiad cadarnhaol tuag at fagu plant

O ganlyniad i’r ymgyrchu gan ‘Sdim Curo Plant/Children are Unbeatable!, y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo yn gadarn i gynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ac i gefnogi amcanion yr ymgyrch.

Mewn dadl mewn cyfarfod llawn ar y 14eg o Ionawr, 2004 ynglyn â’r Papur Gwyrdd, "Mae Pob Plentyn yn Bwysig", fe bleidleisiodd aelodau Cynulliad Cymru o blaid gwahardd taro plant o 41 o bleidleisiau i 9.  Yr oedd y cynnig a dderbyniwyd yn:

"edifar bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i gynnal yr amddiffyniad o gosbi rhesymol ac nad ydyw wedi cymeryd unrhyw gam sylweddol tuag at wahardd cosbi plant yn gorfforol yn y teulu."

Yn 2004, fe wnaeth cefnogwyr Seneddol ‘Sdim Curo Plant! geisio â chyflwyno cymal newydd i roi amddiffyniad cyfartal i blant yn y Mesur Plant.  Fe fethodd yr ymdrechion ac fe gefnogodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol gymal newydd a ddaeth yn Adran 58 o Ddeddf Plant 2004.  Y mae hwn yn caniatáu 'ymosodiad cyffredin' ar blant i’w gyfiawnhau fel 'cosb resymol'.

cauwebbanner1gif
Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch, cysylltwch, os gwelwch yn dda,

â Lynne Hill, Ffôn: 029 2034 2434
neu cliciwch ar y ffurflen ymuno ar y wefan hon.

Os ydych yn pryderu am blentyn, ffoniwch y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Llinell Gymorth Amddiffyn Plant: 0808 100 2524.

‘Sdim Curo Plant, Ffurflen Ymaelodi
Digwyddiadau a Chyflwyniadau
Yr hyn y mae’r Ymgyrch wedi’i gyflawni hyd yn hyn
Magu Plant yng Nghymru
Dolenni Cysylltiol
Children are Unbeatable UK!
Cynghrair o fwy na 300 o fudiadau sy’n ymgyrchu er mwyn i blant gael yr un amddiffyniad cyfreithiol yn erbyn cael eu taro ag sydd gan oedolion, a hyrwyddo disgyblaeth gadarnhaol, di-drais.
Adnoddau Cysylltiol
:Adroddiad Grwp Monitro CCUHP Cymru 2006 - Cosbi Corfforol
:SCP! Cylchlythyr Haf 2008
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313