Argymhelliad y Cynulliad Seneddol Ar 24 Mehefin 2004, fe wnaeth Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop dderbyn argymhelliad manwl, gyda chefnogaeth lethol. Y mae hyn yn nodi’r safonau hawliau dynol sefydledig yn y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a’r Siarter Cymdeithasol Ewropeaidd sy’n galw am wahardd pob cosb gorfforol: "Y mae’r Cynulliad yn ystyried fod unrhyw gosb gorfforol ar blant yn amharu ar eu hawliau sylfaenol i urddas dynol a chyfanrwydd corfforol. Y mae’r ffaith fod cosb gorfforol o’r fath yn dal yn gyfreithlon mewn rhai aelod-wladwriaethau yn amharu ar eu hawl sylfaenol i gael yr un amddiffyniad yn y gyfraith ag oedolyn. Y mae cymdeithas Ewropeaidd yn gwahardd taro bodau dynol ac y mae plant yn fodau dynol. Y mae’n rhaid diweddu’r arferiad cymdeithasol a chyfreithiol o gosbi plant yn gyfreithiol". (Argymhelliad 166/2004)
Ymateb Pwyllgor y Gweinidogion Ym mis Ebrill 2005, fe ymatebodd Pwyllgor y Gweinidogion, awdurdod gweithredol Cyngor Ewrop sydd â 46 o wledydd yn aelodau, i argymhelliad y Cynulliad Seneddol i wneud Ewrop yn barth sy’n rhydd o gosb gorfforol yn erbyn plant. Cytunodd gyda’r Cynulliad ar yr angen i ddechrau ymgyrch gydlynol a chydunol ym mhob aelod-wladwriaeth i ddileu pob trais yn erbyn plant a nododd fod y Pwyllgor Ewropeaidd ar Hawliau Cymdeithasol wedi dod i’r casgliad fod y Siarter Gymdeithasol Ewropeaidd yn galw am wahardd mewn deddfwriaeth unrhyw fath o drais yn erbyn plant.
Cytunodd gyda’r Cynulliad ar yr angen i ddechrau ymgyrch gydlynol a chydunol ym mhob aelod-wladwriaeth i ddileu pob trais yn erbyn plant a nododd fod y Pwyllgor Ewropeaidd ar Hawliau Cymdeithasol wedi dod i’r casgliad fod y Siarter Gymdeithasol Ewropeaidd yn galw am wahardd mewn deddfwriaeth unrhyw fath o drais yn erbyn plant.
Dyfarniad Pwyllgor y GweinidogionFel a ddywedwyd yn The Guardian, ym mis Mehefin 2005 fe gyflwynodd Cyngor Ewrop ddyfarniad ar hawliau dynol plant a fydd yn cynyddu pwysau ar lywodraeth Prydain i gyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd taro yn y cartref. Fe wnaeth penderfyniad gan Bwyllgor Hawliau Dynol Ewropeaidd ategu cwynion yn erbyn cosb gorfforol yn yr Iwerddon, Gwlad Groeg a Gwlad Belg, nad oedd gan blant yn y tair gwlad hyn amddiffyniad digonol rhag ymosodiad gan rieni a all ddefnyddio’r amddiffyniad o ‘gosb resymol’ i gyfiawnhau cosb gorfforol. Y mae’r pwyllgor eisoes wedi beirniadu naw gwlad Ewropeaidd, gan gynnwys Ffrainc a Sbaen am fethiant i wahardd cosb gorfforol.
Fe gadarnhaodd y Pwyllgor ddyfarniadau llysoedd goruchaf yr Eidal a Phortiwgal a oedd yn gwahardd cosbi corfforol, gan gynyddu’r nifer o wledydd i gyflwyno gwaharddiad i 16 o’r 46 aelod-wladwriaeth.
Fe ddywedodd Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru a llywydd Rhwydwaith Ewropeaidd Ombwdsbobl Plant:
"Y mae’r penderfyniadau hyn yn gam mawr tuag at gyflawni hawl holl blant Ewrop i gael eu diogelu’n gyfartal rhag cael eu taro. Y maent yn tanlinellu goblygiadau hawliau dynol gwladwriaethau yn y rhanbarth - yn cynnwys y Deyrnas Gyfunol - i wahardd pob cosb gorfforol yn y teulu."
Plant a chosbi corfforol: "Yr hawl i beidio â chael eich taro, sydd hefyd yn hawl gan blant."Fe wnaeth Comisiynydd Iawnderau Dynol Cyngor Ewrop, Thomas Hammarberg, gyhoeddi papur materion ynglŷn â chosbi corfforol a phlant ym mis Mehefin, 2006. Darllenwch y papur materion llawn
Fe wnaeth Y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn orffen ei 42fed sesiwn ar yr 2 Mehefin, 2006 a derbyn Sylwadaeth Gyffredinol newydd (rhif 8) ynglŷn â hawl y plentyn i gael ei amddiffyn rhag cosbi corfforol a mathau creulon neu ddiraddiol eraill o gosbedigaethau.
Yn dilyn ei ddau Ddiwrnod Trafodaeth Gyffredinol ynglŷn â thrais yn erbyn plant, a gynhaliwyd yn 2000 a 2001, fe benderfynodd y Pwyllgor gyhoeddi cyfres o Sylwadau Cyffredinol yn ymwneud â dileu trais yn erbyn plant, a Sylwadaeth Gyffredinol 8 yw’r un cyntaf ohonynt.
Fe gafodd cynigion i wahardd cosbi corfforol ym Mhrydain eu trechu yn Nhy’r Cyffredin ym mis Tachwedd 2004, er gwrthryfel gan 47 o ASau Llafur. Cefnogodd y llywodraeth gyfaddawd yn caniatáu i rieni roi "cosb resymol", gyhyd nad oedd yn gadael unrhyw farciau gweladwy.