Y mae Plant yng Nghymru yn aelod o Gynghrair ‘Sdim Curo Plant! dros y Deyrnas Gyfunol gyfan sydd yn ymgyrchu i newid y gyfraith yng Nghymru a Lloegr i roi’r un amddiffyniad i blant rhag cael eu taro ag sydd gan oedolion, a hefyd i hyrwyddo ffyrdd di-drais o reoli ymddygiad plant. Y mae aelodau’r Gynghrair yn cynnwys mwy na 350 o fudiadau iechyd plant, gofal plant, lles plant, atal troseddau ac eglwysig ledled y Deyrnas Gyfunol.
Fe lansiwyd ‘Sdim Curo Plant!/Children are Unbeatable! Cymru ('SCP!/CAU! Cymru) ym mis Medi, 2000 i gydgysylltu ac i hyrwyddo’r ymgyrch yng Nghymru. Y mae gan y Grwp Strategaeth gynrychiolwyr o fudiadau Plant yng Nghymru, Achub y Plant, Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Action for Children – Gweithredu dros Blant, Barnardo's, Cymdeithas Genedlaethol y Gwarchodwyr Plant, Sefydliad Cenedlaethol y Teulu a Magu Plant, a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
Cosbi Corfforol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Y mae gwaith Plant yng Nghymru yn ymwneud yn agos â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Y mae’r gwaith hwn yn ymwneud ag Erthygl 19 Confensiwn y CU, y gellir ei weld yn adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig o’r wefan hon.
Fe ddylid cyfeirio ymholiadau parthed y gwaith hwn at:
Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi
Ffôn: 029 2034 2434