Ym mis Ebril, 2003, yn dilyn adolygiad o’r rhaglenni cyllido presennol a phroses ymgynghori, fe gyfunwyd Cychwyn Cadarn yng Nghymru gyda’r Gronfa Partneriaeth Plant ac Ieuenctid a’r Strategaeth Gofal Plant i ffurfio cronfa newydd unedig Cymorth – Cronfa Cymorth Plant ac Ieuenctid. Fe weinyddir Cymorth drwy Bartneriaethau lleol Plant a Phobl Ifanc o fewn pob Awdurdod Lleol. Y mae’n anelu at ddarparu rhwydwaith o gymorth a dargedir ar gyfer plant a phobl ifanc o fewn fframwaith o ddarpariaeth hollgyffredinol er mwyn gwella siawns mewn bywyd plant a phobl ifanc sy’n dod o deuluoedd dan anfantais. I gael golwg ar fwy o wybodaeth am Cychwyn Cadarn,ewch at eu gwefan.
Cymorth ar Waith - Medi 2004, Cynhadledd "Cymorth ar Waith" ym mis Medi 2004 mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod oedd hwyluso rhwydweithio a rhannu arfer gorau ymysg y rhai’n ymwneud â’r Partneriaethau Fframwaith ledled Cymru a sefydliadau gwirfoddol yn derbyn cyllid Cymorth. Roedd themâu’r gweithdai yn cynnwys enghreifftiau arfer gorau o amrediad amrywiol o brosiectau a gyllidir gan Cymorth ledled Cymru gyda rhai cyfraniadau gan ddefnyddwyrgwasanaeth. Roedd y pynciau’n cynnwys: Chwarae, Anabledd, Magu Plant, Gwasanaethau mewn Ardaloedd Gwledig, Materion Cyffuriau ac Alcohol, Troseddu Ieuenctid, Addysg Cymheiriaid, Tadau, Grwpiau Du a Lleiafrif Ethnig, Cychwyn Cadarn, Cefnogi Pobl Ifanc yn eu Harddegau, Monitro a Gwerthuso.
Gwerthusiad Cenedlaethol Cychwyn Cadarn a Mwy: Adroddiad Terfynol, Mai 2005 – Nod y gwerthusiad oedd canfod yr hyn y gellid ei ddysgu oddi wrth raglenni Cychwyn Cadarn a Mwy y gellid ei ledaenu i raglenni eraill a gwasanaethau perthnasol sy’n bartneriaid. Rhwydwaith Cychwyn Cadarn Y mae Plant yng Nghymru yn cefnogi Rhwydwaith Cychwyn Cadarn yng Nghymru ac y mae wedi hwyluso cyfarfodydd rheolaidd gan gydgysylltwyr Cychwyn Cadarn, a gynhelid yng nghanolbarth Cymru. Y mae pynciau a drafodid yn cynnwys datblygu Canolfannau Plant Integredig, cyllid Cymorth a’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol. Fe fydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn ystyried datblygiad Cyfnodolyn i Cychwyn Cadarn i amlygu ymarfer da; holiadur i fapio datblygiadau Cychwyn Cadarn ledled Cymru; ffocws ar waith gyda thadau o fewn rhaglenni Cychwyn Cadarn. Os hoffech anfon erthygl i’r cyfnodolyn, a fyddech cystal ag anfon copi ymlaen at Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru. Fe ellir hefyd cael copïau o’r holiadur oddi wrth Plant yng Nghymru.
Adroddiadau