Mae Plant yng Nghymru yn hwyluso Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan sy’n anelu i roi pwynt cyswllt ar gyfer yr holl ganolfannau.
Mae Canolfannau Plant Integredig yn gynlluniau ar y cyd rhwng cymunedau lleol, y sector gwirfoddol, addysg iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae pob canolfan yn gweithredu fel dolen rhwng rhwydwaith o ddarparwyr megis grwpiau rhiant a phlentyn, cylchoedd chwarae, gwarchodwyr plant, clybiau allan o’r ysgol, meysydd chwarae antur a gweithgareddau hamdden eraill ar gyfer pobl ifanc. Drwy'r ddolen hon medrant gynorthwyo a dysgu sgiliau i blant, teuluoedd a chymunedau. Mae rhai canolfannau’n cynnwys gwasanaethau cefnogaeth i rieni ac yn ganolfan ar gyfer ymwelwyr iechyd. Mae o leiaf un ganolfan ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
Daw Plant yng Nghymru â rheolwyr y tair canolfan hyn ynghyd drwy Rwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan fel y medrant rannu arfer da a dysgu gan ei gilydd. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi fforwm iddynt drafod materion cyffredin, cryfhau cysylltiadau gydag agenda polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhoi llais cryfach iddynt. Medrant ddathlu llwyddiannau, ymchwilio’r materion o gonsyrn a deall amrywiaeth y Canolfannau a sicrhau ymagwedd gydlynol ar draws Cymru.
Mae Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan yn gweithio i:
Y mae manylion Canolfannau Plant Integredig ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol ar gael yn yr adran Yn Eich Ardal o’r wefan.
I gael gwybodaeth bellach cysyllter â Lynne Hill, Cyfarwyddydd Polisi, e-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk