Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Eiriolaeth
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Bwlio
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
    Cynllun Sicrwydd Ansawdd
    Rhwydwaith Dechrau’n Deg
    » Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan
    Rhwydwaith Cychwyn Cadarn
    Grwp Cynghori ar Flynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
  • Llythrennedd Emosiynol
  • Rhoi Diwedd ar Gosbi Corfforol
  • Cynadleddau Grwp Teuluoedd
  • Gwaith Rhyngwladol
  • Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Cyfranogaeth
  • Magu Plant
  • Ymchwil
  • Diogelu Plant
  • Y Sector Gwirfoddol
  • Gofalwyr Ieuainc

Yr ydych yn : Meysydd Gwaith »Blynyddoedd Cynnar »Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan
Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan

Mae Plant yng Nghymru yn hwyluso Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan sy’n anelu i roi pwynt cyswllt ar gyfer yr holl ganolfannau.

Mae Canolfannau Plant Integredig yn gynlluniau ar y cyd rhwng cymunedau lleol, y sector gwirfoddol, addysg iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae pob canolfan yn gweithredu fel dolen rhwng rhwydwaith o ddarparwyr megis grwpiau rhiant a phlentyn, cylchoedd chwarae, gwarchodwyr plant, clybiau allan o’r ysgol, meysydd chwarae antur a gweithgareddau hamdden eraill ar gyfer pobl ifanc. Drwy'r ddolen hon medrant gynorthwyo a dysgu sgiliau i blant, teuluoedd a chymunedau. Mae rhai canolfannau’n cynnwys gwasanaethau cefnogaeth i rieni ac yn ganolfan ar gyfer ymwelwyr iechyd. Mae o leiaf un ganolfan ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Daw Plant yng Nghymru â rheolwyr y tair canolfan hyn ynghyd drwy Rwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan fel y medrant rannu arfer da a dysgu gan ei gilydd. Mae’r Rhwydwaith yn rhoi fforwm iddynt drafod materion cyffredin, cryfhau cysylltiadau gydag agenda polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru a rhoi llais cryfach iddynt. Medrant ddathlu llwyddiannau, ymchwilio’r materion o gonsyrn a deall amrywiaeth y Canolfannau a sicrhau ymagwedd gydlynol ar draws Cymru.

Mae Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Cymru-gyfan yn gweithio i:

  • Cynhyrchu amcanion cyffredin ar gyfer Cymru gyfan
  • Datblygu fframwaith ar gyfer monitro/gwerthuso i sicrhau safonau ansawdd
  • Sefydlu gwefani hwyluso rhannu gwybodaeth
  • Rhoi gwybodaeth ar ffrydiau cyllid priodol a thrafod materion cyllideb
  • Codi proffil Canolfannau Plant Integredig yng Nghymru

Y mae manylion Canolfannau Plant Integredig ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol ar gael yn yr adran Yn Eich Ardal o’r wefan.

I gael gwybodaeth bellach cysyllter â Lynne Hill, Cyfarwyddydd Polisi, e-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313