Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Cefnogi Cynnar er mwyn gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau i blant anabl o dan 5 oed a’u teuluoedd. Mae’n adeiladu ar waith a gyflawnwyd yn Lloegr yn ystod y pum mlynedd diwethaf, lle mae Cefnogi Cynnar wedi’i hen sefydlu yn nifer o’r 150 o awdurdodau lleol.
C. Pam bod angen Cefnogi Cynnar yng Nghymru ?
A. Mae plant anabl yn grŵp amrywiol ag anghenion cyfnewidiol. Mae’n hanfodol fod y plant hyn yn cael yr un cyfleoedd â phlant eraill – a’u bod yn cael y dewisiadau a’r cyfleoedd yr ydym yn eu dymuno ar gyfer ein holl bobl ifanc. Ac mae’n hollbwysig eu bod yn cael y gefnogaeth honno cyn gynted â phosibl – mae ymyrraeth gynnar nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol o ran hybu datblygiad, ond mae hefyd yn herio unrhyw bosibilrwydd o ddirywiad cynnar neu atchweliad ymysg plant anabl. Yn gyson, mae rhieni wedi adrodd am ddiffyg cydlyniant o ran y gwasanaethau, lle mae systemau ar wahân sy’n gweithredu yn yr asiantaethau statudol yn rhwystro rhieni rhag cael gwasanaeth cydgysylltiedig. Yn aml bydd rhieni’n dod yn rhyfelwyr profiadol yn gynnar iawn ac yn gorfod gweithredu fel prif bwynt cydgysylltu’r gwasanaethau sydd yno i’w cynorthwyo. Mae Cefnogi Cynnar yn anelu i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cydgysylltu’n well, gydag un pwynt cysylltu, ac yn gweithio mewn modd sy’n canolbwyntio ar y teulu a’r plentyn, mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr.
C. Sut y bydd Cefnogi Cynnar yn helpu i ddarparu gwasanaethau’n well ?
A. Mae Cefnogi Cynnar wedi datblygu ystod o adnoddau a hyfforddiant sydd â’r nod o ddod â darparwyr gwasanaethau ynghyd i benderfynu beth yw anghenion plentyn a‘i deulu a sicrhau bod y rhieni’n ganolog i’r broses gynllunio. Dechreuodd y gwaith o ddatblygu’r adnoddau hyn a’r hyfforddiant yn Lloegr, ac ar hyn o bryd mae’n digwydd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y deunyddiau o Loegr yn cael eu haddasu ar gyfer y cyd-destun yng Nghymru. Bydd yr adnoddau i gyd yn barod ac ar gael erbyn diwedd 2009. Fodd bynnag, nid y deunyddiau yw’r ymyrraeth, a chaiff egwyddorion a dulliau gweithredu Cefnogi Cynnar eu cyflwyno’n raddol yng Nghymru o ddechrau 2009 ymlaen, gyda chymorth ymgynghorwyr Cefnogi Cynnar ledled Cymru.
C. Beth yw adnoddau ymarferol Cefnogi Cynnar?
A. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau a chyrsiau hyfforddi Cefnogi Cynnar ar gael. Datblygwyd deunyddiau Cefnogi Cynnar i helpu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i symud oddi wrth fodel o ymyrraeth mewn argyfwng a chyflwyno elfen o gynllunio i fywydau teuluoedd â phlant anabl ifanc. Mae’r deunyddiau’n cynnwys:-
Un o brif nodweddion y ffeil Teulu yw’r Cynllun Gwasanaeth Teulu, sy’n cefnogi trafodaeth ar y cyd rhwng y rhiant a’r gweithiwr proffesiynol ynghylch y gwasanaethau sydd eu hangen ar y teulu a’r plentyn a sut y bydd y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol yn ymateb. Mae’n cynnig cyfle gwirioneddol o’r cychwyn cyntaf i gydlynu gwasanaethau’n well.
Mae’r pecyn teulu hefyd yn dod â’r holl wybodaeth y mae’r teulu ei hangen am y gwasanaethau, cymorth ariannol a gwybodaeth sylfaenol arall y mae teuluoedd wedi ymdrechu i’w chael yn y gorffennol, ynghyd mewn un pecyn.
Mae Offeryn Cynllunio a Gwella Amlasiantaethol Cefnogi Cynnar yn adnodd y gall gweithwyr proffesiynol ei ddefnyddio i asesu pa mor dda y maent yn darparu gwasanaethau i deuluoedd a pha mor dda maent yn gweithio gyda theuluoedd mewn gwasanaethau cynllunio i’w cefnogi a chynllunio sut i weithredu egwyddorion a deunyddiau Cefnogi Cynnar yn effeithiol.
Cynhelir saith cwrs gwahanol o hyfforddiant Cefnogi Cynnar:-
I gael rhagor o wybodaeth am Gefnogi Cynnar, cysylltwch â Kathy Beach, gweinyddwr Cefnogi Cynnar – kathryn.beach@childreninwales.org.uk